Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd cyffrous busnes rhyngwladol? A hoffech weithio dramor neu mewn sefydliadau sy'n ymwneud â busnes ar raddfa fyd-eang? Mae'n farchnad sy'n tyfu, gyda llawer o gyfleoedd am swyddi, wrth i gwmnïau ledled y byd ddod yn fwy cysylltiedig a chwilio am arweinwyr a rheolwyr y dyfodol.
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Ryngwladol) ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ganolbwyntio'n benodol ar y cyfleoedd a'r heriau a gynigir gan fusnes mewn marchnad fyd-eang cydgysylltiedig. Byddwch yn astudio modiwlau ym maes busnes byd-eang a rheoli rhyngwladol cyn cyflawni prosiect arbenigol tebyg i waith ymgynghoriaeth rheoli sy'n berthnasol i reoli rhyngwladol.
Mae'r rhaglen hon hefyd yn mynd i'r afael â chysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli gwaith marchnata.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Pan fyddwch wedi graddio, byddwch yn ennill tystysgrif lefel 7 CMI.
Gwyddom fod hwn yn fyd cystadleuol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau a chael mantais dros eich cystadleuwyr, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy'n cwmpasu materion fel dulliau ymchwil.