Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ymwybyddiaeth fasnachol gref a diddordeb mewn rheoli cyflenwi ym marchnadoedd byd-eang a hynod gystadleuol yr oes sydd ohoni?
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb amlwg mewn deall sut y caiff cynhyrchion a gwasanaethau eu creu a'u dosbarthu, a dysgu sut y gellir gwella'r broses hon ar gyfer cwmnïau'r 21ain ganrif. Cynlluniwyd y cwrs gradd yn benodol â ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gydgysylltiedig.
Mae'r cwrs yn cynnig y cyfle i chi ganolbwyntio ar fodiwlau sy'n ymwneud â rheoli cadwyni cyflenwi a phrosiectau ac archwilio'r systemau egwyddorion a'r ymarferion sy'n sylfaen i ragoriaeth mewn gweithrediadau mewn sefydliadau perfformiad uchel. Ynghyd â hyn, byddwch yn datblygu sylfaeni cryf mewn meysydd rheoli craidd megis:
- Rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol
- Rheoli gweithrediadau cynaliadwy
- Rheoli pobl a pherfformiad
- Strategaeth farchnata
Mae'r cyfuniad hwn yn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth gynhwysfawr o reoli busnes cyfoes.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau’r modiwlau perthnasol sydd wedi’u mapio ar y radd MSc Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel saith y CMI mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol.