Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych uchelgais i fod yn rheolwr? Oes gennych sgiliau cyfathrebu gwych, ydych chi'n drefnus ac yn benderfynol? Allwch chi fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol a chymell pobl i wneud eu gorau? Os hoffech greu argraff dda a dringo ysgol gyrfa mewn rheoli busnes, bydd angen i chi ddysgu gan yr arbenigwyr am sut i lwyddo.
Cynlluniwyd yr MSc Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr elfen ddynol o reoli busnes - o ddulliau clasurol o reoli adnoddau dynol i feysydd megis arweinyddiaeth a rheoli elfennau dynol busnes mewn cyd-destun byd-eang dynamig.
Byddwch hefyd yn astudio rheoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU a sefydlwyd yn unswydd i hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain ac mae ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl i chi raddio, byddwch yn derbyn tystysgrif lefel 7 y CMI.
Gwyddom ein bod yn byw mewn byd cystadleuol. I'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau ac i achub y blaen ar eich cystadleuwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl ar sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwil.