Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn chwilio am radd a fydd yn eich helpu i gael mantais ym myd cystadleuol marchnata? Mae'n yrfa sy'n cynnig cyfleoedd gwych i symud ymlaen, yn ogystal â'r cyfle i weithio mewn unrhyw ddiwydiant, yn unrhyw ran o'r byd, ac mae'n siŵr y bydd rhywbeth sy'n addas ar gyfer eich sgiliau.
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Marchnata) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr heriau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau marchnata byd-eang ac a hoffai ddatblygu gyrfa ym maes marchnata. Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio pynciau arbenigol fel cyfathrebu integredig ym maes marchnata ac ymddygiad defnyddwyr.
Cynlluniwyd y rhaglen hon yn benodol â ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gydgysylltiedig. Mae hefyd yn mynd i'r afael â chysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli gwaith marchnata.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Pan fyddwch wedi graddio, byddwch yn ennill tystysgrif lefel 7 CMI.
Gwyddom fod hwn yn fyd cystadleuol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau a chael mantais dros eich cystadleuwyr, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy'n cwmpasu materion fel dulliau ymchwil.