Llenyddiaeth Saesneg, MA

Datblygu Sgiliau Uwch mewn amrywiaeth o Fodiwlau Llenyddiaeth Saesneg

Ffotograff o fyfyrwyr yn mwynhau astudio yn y llyfrgell

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MA Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe'n rhaglen wych sy'n cynnig y cyfle i chi archwilio meysydd amrywiol diwylliant llenyddol a meithrin eich diddordebau ymchwil unigryw eich hun. 

Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil ac ysgrifennu beirniadol i lefel broffesiynol wrth ddarllen yn eang ar draws llenyddiaeth Saesneg, o'r oes ganoloesol hyd heddiw.  

Mae ein MA yn cynnig ymagwedd ryngddisgyblaethol at lenyddiaeth sy'n ystyried testunau mewn perthynas â hanes, athroniaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant gweledol.  Ar y rhaglen hon, rydym yn eich annog i ddatblygu eich annibyniaeth a’ch arbenigedd ymchwil, cyn gorffen gyda phrosiect traethawd hir ar bwnc o'ch dewis.

Nod y rhaglen yw mynd i'r afael â chwestiynau hollbwysig am rôl llenyddiaeth, y celfyddydau a diwylliant yng nghymdeithas y dyfodol.  Mae'n ystyried sut y gall creadigrwydd, cymuned a hunaniaeth ein helpu i wynebu heriau byd-eang mwyaf y byd sydd ohoni - o newid yn yr hinsawdd i anghydraddoldeb. 

At hynny, cewch eich addysgu gan arbenigwyr o fri rhyngwladol ym meysydd Llenyddiaeth Saesneg Cymru, Llenyddiaeth Gothig, Llenyddiaeth Ganoloesol, Llenyddiaeth Neo-Fictoraidd, Moderniaeth, Llenyddiaeth Fodern Gynnar ac amrywiaeth o ddamcaniaethau llenyddol. 

Pam Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe?

Mae'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ar ein campws Parc Singleton mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe. 

Mae'r rhaglen hon yn ehangu ffiniau astudiaethau llenyddol, gan gysylltu testunau canoloesol â thestunau cyfoes sy'n ystyried heriau lleol a byd-eang y byd sydd ohoni. Cewch eich annog i feddwl yn feirniadol, yn greadigol ac yn gysyniadol am rôl llenyddiaeth mewn cymdeithas.

Gall y rhaglen hon hefyd arwain at gyfleoedd eraill i astudio ymhellach ar lefel PhD neu i wella eich sgiliau ysgrifennu a dadansoddi beirniadol ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd addysgu, cyhoeddi, treftadaeth ddiwylliannol, y diwydiannau creadigol a sectorau eraill.

Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd dewisol cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Ymhlith y modiwlau amrywiol mae sgiliau ymchwil lefel uwch mewn Saesneg, hunaniaethau Cymreig, ysgrifennu creadigol nad yw'n ffuglennol, ysgrifennu dramâu radio, ysgrifennu sgriptiau, rhywedd a diwylliant, James Joyce a theori lenyddol, a ffuglen a phŵer.

Mae ysgrifennu dramâu yn gryfder addysgu arbennig, ac mae'n cynnwys maes cymharol newydd, nas archwiliwyd, Dramayddiaeth.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Byddwch yn mireinio eich sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar, gan ddysgu sut i gyflwyno syniadau mewn modd eglur a chreadigol er mwyn creu effaith ar draws fformatau amrywiol.

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i ffynnu mewn gyrfaoedd megis:

  • Addysgu
  • Cyhoeddi
  • Ysgrifennu ac awduro
  • Y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol
  • Elusennau a sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw
  • Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus, Hysbysebu
  • Astudiaethau academaidd pellach (PhD)
  • Treftadaeth Ddiwylliannol
  • Llyfrgelloedd ac archifau

Gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus