Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r MA yn Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol yn gwrs trwyadl sy’n canolbwyntio ar hanes a diwylliant yr hen Roeg a Rhufain, gan fanteisio ar arbenigedd ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae’r cwrs hynod ddiddorol hwn yn eich galluogi i weld sut mae gwareiddiadau’r byd Clasurol wedi dylanwadu ar bob agwedd ar y byd modern.
Gallwch astudio o’r byd Myseneaidd i’r Ymerodraeth Rufeinig ddiweddarach, gan arbenigo mewn hanes neu lenyddiaeth, neu gyfuniad o’r ddau. Gall Hen Roegeg a Lladin hefyd gael eu hastudio.
Cewch eich annog i feithrin ymwybyddiaeth fethodolegol wrth i chi gael eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a thechnegau dehongli sydd wedi llywio’r gwaith o astudio gwareiddiadau hynafol yn y byd modern.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn meithrin y sgiliau ymchwil arbenigol sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes o Hanes yr Henfyd a Gwareiddiad Clasurol.