Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd MSc mewn Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth) wedi'i llunio i fodloni'r galw cynyddol am arweinwyr arloesol, cyfrifol yn y diwydiant chwaraeon byd-eang. Mae'r llwybr hwn yn cynnig rhaglen astudio ryngddisgyblaethol a chymhwysol sy'n integreiddio gwybodaeth rheoli uwch â gwybodaeth sy'n benodol i'r sector chwaraeon, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a pherfformiad sefydliadol. Mae'r llwybr yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes chwaraeon, sy'n gallu ymdrin â chymhlethdod, gweithredu arloesedd a sicrhau twf cynaliadwy mewn sefydliadau chwaraeon.
Bydd ein rhaglen yn rhoi'r ddealltwriaeth feirniadol i chi o ran heriau gweithredol, strategol a moesegol unigryw sy'n wynebu chwaraeon ar lefel broffesiynol, gymunedol a byd-eang. Gan ddefnyddio astudiaethau achos o chwaraeon elît, sefydliadau ar lawr gwlad a ffederasiynau rhyngwladol, byddwch chi'n archwilio themâu fel y trawsnewidiad o athletwr i arweinydd, arloesedd entrepreneuraidd, cynaliadwyedd mewn chwaraeon, a rheoli timau a sefydliadau perfformiad uchel. Mae cyfleoedd dysgu cymhwysol yn sicrhau eich bod chi, fel myfyriwr graddedig y cwrs hwn, yn gallu trosglwyddo eich gwybodaeth yn ymarfer ar draws cyd-destunau chwaraeon a busnes amrywiol.
Mae ein rhaglen MSc wedi'i strwythuro'n dair rhan. Mae'r gyntaf yn darparu modiwlau sylfaen MBA, gan feithrin dysgu traws-ddisgyblaetholx ar draws y portffolio MSc Rheoli Uwch. Mae'r ail ran yn canolbwyntio ar fodiwlau sy'n benodol i chwaraeon sydd wedi'u llunio i ddatblygu gwybodaeth am weithrediadau cynaliadwy, ymarfer entrepreneuraidd a sefydliadau perfformiad uchel. Mae'r rhan olaf yn canolbwyntio ar brosiect copa Ymchwil mewn Ymarfer, sydd wedi’i gwreiddio drwy gydol y cwrs ac sy'n cyd-fynd â heriau go iawn gan bartneriaid y diwydiant.
Mae'r llwybr hwn wedi'i lunio i gael ei gyflwyno'n rhan-amser, a'i astudio dros ddwy flynedd, gan ddechrau gyda modiwlau MBA yn y flwyddyn gyntaf, yna fodiwlau sy'n benodol i chwaraeon yn yr ail flwyddyn. Mae'r model hyblyg hwn yn cefnogi anghenion dysgu gweithwyr ac athletwyr proffesiynol sy'n pontio, wrth gynnal ffocws cryf ar wybodaeth gymhwysol.