Nyrsio (Iechyd Meddwl), MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
nursing pre reg

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n weithiwr graddedig mewn lleoliad gofal iechyd ac yn awyddus i fynd â’ch gyrfa i'r lefel nesaf, mae ein cwrs MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl ar eich cyfer chi. 

Wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd nad ydynt wedi'u cofrestru, bydd y cwrs gradd Meistr hwn sy'n para dwy flynedd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi lansio gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn hanfodol hwn. 

Bydd ein MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi i chi'r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol y mae ei hangen arnoch i ddarparu gofal nyrsio tosturiol o safon, i wella iechyd a lles meddyliol. 

Yn ystod y cwrs, byddwch yn gwella gofal a thriniaeth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd. 

Sylwer nad yw'r cwrs hwn ar agor i fyfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd. 

PAM NYRSIO IECHYD MEDDWL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Yn ystod eich amser yn dysgu yn y Brifysgol, byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton hyfryd, mewn parcdir gwyrdd sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl penrhyn Gŵyr. Mae'n lleoliad llawn ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu ac yn amgylchedd ardderchog i ddechrau eich gyrfa nyrsio.

Mae gan Abertawe enw da iawn am nyrsio:

  • Ymysg y 200 o brifysgolion gorau yn y Byd ar gyfer Nyrsio (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025)
  • Mae 96% o raddedigion Nyrsio (Iechyd Meddwl) yn gweithio a/neu'n astudio neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

Cewch eich addysgu gan nyrsys, meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, y mae llawer ohonynt yn gweithio mewn ymarfer clinigol o hyd. Mae eu cymysgedd o arbenigedd academaidd a phrofiad yn y byd go iawn yn creu amgylchedd dysgu cyfoethog a chefnogol, gan eich helpu i ddod yn nyrs hyderus a galluog.

Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd Cymru a rhwydwaith eang o bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y bydd gennych fynediad at leoliadau clinigol o safon mewn lleoliadau trefol a gwledig, gan ennill profiad ymarfer amrywiol ac ystyrlon drwy gydol eich hyfforddiant.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am 18 mis ar ôl graddio, gallech fod yn gymwys i gael eich ffïoedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Mae'r cwrs MSc hwn hefyd yn unigryw: dyma'r unig raglen MSc Nyrsio cyn-gofrestru yng Nghymru a ddarperir dros ddwy flynedd, gan alluogi graddedigion o unrhyw ddisgyblaeth i ddechrau gyrfa mewn nyrsio a pharatoi i gyflwyno cais am gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Eich Profiad Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Mae ein rhaglen MSc Nyrsio wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddod yn nyrs ddiogel, effeithiol a thosturiol, yn hollol barod ar gyfer realiti gofal iechyd modern ac amlddisgyblaethol. Byddwch yn astudio mewn amgylchedd sy'n cefnogi eich datblygiad, yn meithrin eich hyder ac yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ofalu am cleifion ar draws ystod eang o leoliadau.

Bydd gennych fynediad at gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys ystafelloedd clinigol realistig lle gallwch ymarfer sgiliau hanfodol a chymhwyso'ch gwybodaeth ddamcaniaethol mewn sefyllfaoedd sy'n adlewyrchu'n agos amgylcheddau ysbyty a chymunedol go iawn. Mae efelychu wedi'i ymgorffori drwy'r cyfan i'ch helpu i ymarfer gwneud penderfyniadau, gweithio mewn timau a chael adborth cefnogol cyn dechrau ymarfer.

Byddwch hefyd yn dysgu yng Nghanolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) Abertawe, sy'n darparu amrywiaeth o weithgareddau sy'n seiliedig ar senarios a sgiliau ar draws safleoedd. Mae adnoddau efelychu realiti rhithwir dethol eisoes ar gael yn Gymraeg, ac mae senarios cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn cael eu datblygu.

Ochr yn ochr ag efelychu manwl gywir ac efelychu ar sail senarios, byddwch yn gweithio gyda'n Teulu Rhithwir, sef adnodd achosion aml-genhedlaeth a ddefnyddir ar draws y rhaglen. Drwy ddilyn aelodau o'r teulu dros amser, byddwch yn archwilio asesu, rheoli cyflyrau hirdymor, optimeiddio meddyginiaethau, diogelu a gwneud penderfyniadau ar y cyd, a gweld sut mae penderfyniadau nyrsio yn dylanwadu ar deithiau pobl ar draws y continwwm gofal. Mae rhai adnoddau'r Teulu Rhithwir ar gael yn Gymraeg hefyd.

Mae dysgu drwy ymarfer yn rhan bwysig o'ch hyfforddiant. Ar draws y rhaglen, byddwch yn cwblhau 40 wythnos ar leoliad clinigol mewn ystod amrywiol o leoliadau, gan gynnwys ysbytai, timau cymunedol, cartrefi nyrsio a gwasanaethau yn y sector annibynnol neu wirfoddol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan oruchwylwyr ymarfer, aseswyr ymarfer ac aseswyr academaidd sy'n gweithio gyda'i gilydd i lywio eich cynnydd a'ch helpu i fodloni meysydd hyfedredd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae dysgu rhyngbroffesiynol wedi'i ymgorffori, gan roi cyfleoedd i chi ddysgu gyda myfyrwyr a chanddynt ar draws disgyblaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n baratoad delfrydol ar gyfer realiti gwaith tîm amlddisgyblaethol.

Os dymunwch, gallwch hefyd astudio elfennau o'ch gradd Meistr drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gennych fynediad at adnoddau dwyieithog a thiwtoriaid personol ac aseswyr sy'n siarad Cymraeg, ac efallai y byddwch yn gymwys i gael ysgoloriaethau neu gymorth ariannol drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am statws Nyrs (Iechyd Meddwl) Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a’r AEE.

Bydd myfyrwyr o'r DU hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG i dalu cost hyfforddiant. Bydd angen i'r rhai hynny sy'n cael y fwrsariaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus/preifat/annibynnol am hyd at ddwy flynedd ar ôl cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mewn cytundeb â byrddau iechyd GIG Cymru a phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu ac yn rheoli proses baru o dan y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr. Ar ddiwedd eich rhaglen, byddwch yn gallu gwneud cais am swyddi gwag ledled Cymru drwy'r cynllun.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.