Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol, PGDip / PGCert

Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymarfer

community banner

Trosolwg o'r Cwrs

Gwella eich arweinyddiaeth, ymchwil ac arbenigedd addysgol gyda'n gradd Meistr newydd mewn Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol.

Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd proffesiynol, bydd y cwrs yma’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi i ddatblygu yn eich gyrfa ac i archwilio ymchwil ac arferion arloesol traws-ddisgyblaethol i wella iechyd y cyhoedd.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio ymchwil beirniadol a sgiliau dadansoddol mewn perthynas â pholisi ac ymarfer gofal iechyd a datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.

Pam Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol yn Abertawe?

 

 

Eich profiad Cymunedol a Gofal Sylfaenol

Wedi'i leoli yn ein Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch yn elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau.

Mae ein hamrywiaeth helaeth o fodiwlau dewisol yn golygu y gallwch chi deilwra'ch astudiaethau at eich diddordebau a'ch maes ymarfer penodol.

Mae ein staff academaidd yn weithgar mewn ystod eang o feysydd ymchwil, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, seicoleg, cymdeithaseg, bydwreigiaeth a nyrsio plant, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd polisi ac ymarfer cyfredol.

Byddwch yn ymuno â phrifysgol a oedd wedi ei henwi'n 'Brifysgol y Flwyddyn' ac yn ail orau 'Ol-raddedig' yng Ngwobrau What Uni Student Choice Awards 2019.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae eich cymhwyster ôl-raddedig mewn Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol yn agor ystod o gyfleoedd datblygu gyrfa yn eich disgyblaeth ddewisol, gan gynnwys ymchwil, rolau addysg a rheoli.