Rheoli Adeiladu Diwydiannol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Safle adeiladu gyda gweithwyr rheoli ac adeiladu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn rhaglen arloesol a fydd yn datblygu arweinwyr diwydiant y dyfodol drwy gyfuno arbenigedd technegol â sgiliau rheoli strategol. Fe'i cyflwynir ar y cyd gan yr Adran Peirianneg Sifil a'r Ysgol Reolaeth, ac mae'n cynnig cyfuniad unigryw o arbenigedd adeiladu ar safle ac arweinyddiaeth prosiect mewn swyddfa.

Mae'r rhaglen hon yn mynd y tu hwnt i wybodaeth ddamcaniaethol mewn Rheoli Adeiladu, gan bwysleisio sgiliau ymarferol, senarios yn y byd go iawn a phrofiad ymarferol drwy ymgysylltu ag arweinwyr diwydiant.

Caiff ei hardystio gan y Temporary Works Forum (TWF), sefydliad masnach blaenllaw yn y sector adeiladu, ac mae'r rhaglen yn cynnwys darlithoedd a arweinir gan ddiwydiant, astudiaethau achos o'r byd go iawn a phrosiectau ymarferol. Caiff rhan helaeth o'r cwricwlwm ei chyflwyno gan uwch weithwyr proffesiynol o gwmnïau adeiladu blaenllaw'r DU, gan gynnig dealltwriaeth unigryw o arferion y diwydiant sy'n torri tir newydd.

Fel myfyriwr ar y rhaglen hon, byddwch yn cael sylfaen gref mewn dulliau adeiladu, cydlynu gwaith dros dro, a phob agwedd ar reoli prosiectau, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer byd diwydiant unwaith y byddwch wedi graddio.

Drwy ymgorffori priodoleddau graddedigion, partneriaethau â diwydiant a dysgu rhyngddisgyblaethol, mae'r MSc hon mewn Rheoli Adeiladu'n cynnig profiad addysgol cynhwysfawr a blaengar sy'n gallu rhoi i chi wybodaeth academaidd a chymwyseddau proffesiynol y mae eu hangen i ragori yn y diwydiant adeiladu.

Pam Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn Abertawe?

Bydd y rhaglen yn defnyddio arbenigedd staff academaidd yr Adran Peirianneg Sifil yn ogystal â'r Ysgol Reolaeth, a bydd gwaith ymchwil mewn arbenigeddau rheoli'n cyfoethogi'r rhaglen â dealltwriaeth sy'n pontio'r bwlch rhwng ymchwil academaidd ac arferion adeiladu yn y byd go iawn.

Mae'r ymagwedd strwythuredig sy'n cyd-fynd â byd diwydiant yn sicrhau eich bod, fel myfyriwr graddedig, wedi meithrin yr wybodaeth academaidd a’r cymwyseddau ymarferol y mae eu hangen ar gyfer rolau arweinyddiaeth yn y sector adeiladu.

Mae'r Adran Peirianneg Sifil yn Abertawe wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol, ac o ganlyniad wedi cyrraedd y safleoedd canlynol:

  • Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)
  • Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2025)
  • Ymysg y 201-240 o raglenni gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2024), ac
  • mae 100% o'n gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau staff ymchwil yn yr Adran Beirianneg. Ceir cymorth pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai a chyfleusterau cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Eich Profiad Rheoli Adeiladu Diwydiannol

Mae'r rhaglen hon wedi'i llunio ar sail yr egwyddor bod angen i weithwyr proffesiynol adeiladu effeithiol feddu ar allu rheoli cryf a dealltwriaeth ddofn o weithrediadau peirianneg a safle. Yn wahanol i raglenni traddodiadol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gynllunio prosiectau a rheoli busnes, mae'r radd MSc hon yn cynnwys arweinyddiaeth strategol ac arbenigedd technegol i greu graddedigion cyflawn, wedi'u paratoi’n dda am gymhlethdodau prosiectau adeiladu modern.

Un o bileri allweddol yr athroniaeth hon yw cydweithio â byd diwydiant.  Gyda mewnbwn uniongyrchol gan Temporary Works Forum (TWF) a gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y maes, mae'r rhaglen yn sicrhau y byddwch yn ennill dealltwriaeth dda o heriau adeiladu cyfoes, arferion gorau ac arloesi sy'n dod i'r amlwg. Mae cyfranogi yn y byd go iawn yn gwella cyflogadwyedd ac yn pontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd ac anghenion y diwydiant.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys safbwynt byd-eang, gan gydnabod bod adeiladu'n ddiwydiant rhyngwladol gyda rheoliadau, cyd-destunau diwylliannol a heriau cynaliadwyedd amrywiol. Drwy gyfuno manyldeb academaidd ag astudiaethau achos ymarferol, dysgu ar safle a modiwlau a arweinir gan y diwydiant, mae'r MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn datblygu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu addasu, sy'n meddwl yn flaengar ac yn barod i arwain mewn sector sy'n datblygu'n gyflym.

Agwedd allweddol o'r integreiddio hwn yw'r cydweithio cryf â’r diwydiant, yn enwedig gyda’r Temporary Works Forum (TWF) a llawer o gwmnïau adeiladu blaenllaw yn y DU, sy'n cynnig addysgu a arweinir gan y diwydiant ar gyfer tri modiwl peirianneg (60 credyd).   Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau y byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag anghenion y diwydiant, gan ennill profiad yn y byd go iawn a chael dealltwriaeth broffesiynol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Adeiladu Diwydiannol

Fel myfyriwr graddedig o'r rhaglen hon, byddwch yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd allweddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth fasnachol ac o fyd busnes, datrys problemau, arweinyddiaeth, rheoli risg, rhwydweithio ac addasu digidol.

Bydd y sgiliau hyn yn cael eu meithrin drwy fodiwlau a arweinir gan y diwydiant, darlithoedd gwadd, ymweliadau â safleoedd a phrosiectau cydweithredol, gan eich paratoi ar gyfer rolau arweinyddiaeth neu fentrau entrepreneuraidd yn y sector adeiladu.

Bydd galw mawr am raddedigion ar gyfer rolau blaenllaw mewn amrywiaeth o arbenigeddau cysylltiedig, megis:

Rheoli Adeiladu a Rheoli Prosiectau

  • Rheolwr Prosiectau Adeiladu
  • Rheolwr Safle
  • Rheolwr Contractau

Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Dechnegol

  • Peiriannydd Adeiladu
  • Cydlynydd Gwaith Dros Dro
  • Arbenigwr BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladau)

Rolau Masnachol ac Ariannol

  • Syrfëwr Meintiau
  • Peiriannydd Costau
  • Rheolwr Caffael

Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd

  • Rheolwr Iechyd a Diogelwch
  • Ymgynghorydd Cynaliadwyedd
  • Arbenigwr Rheoli Risg

Os ydych newydd raddio neu'n weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae'r MSc hon yn pontio'r bwlch rhwng arbenigedd technegol a rhagoriaeth reoli, gan ei gwneud yn llwybr perffaith i gael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.