Peirianneg Gyfrifiadol, MSc

Marine Turbine

Trosolwg o'r Cwrs

Mae modelu ac efelychu cyfrifiadurol yn offeryn sy'n cael ei ddefnyddio fwyfwy ym myd diwydiant i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth, o greu deunyddiau newydd a mwyafu cydrannau, systemau a phrosesau i leihau amser cyrraedd y farchnad ac amser i gynhyrchu cynnyrch a heriau byd-eang megis lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Bydd ein gradd MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn datblygu eich sgiliau wrth ddatblygu a chymhwyso dulliau cyfrifiadol ar gyfer perfformio efelychiadau rhithwir o ystod eang o broblemau ffisegol, mynd i'r afael â heriau'r 21ain ganrif mewn meysydd gan gynnwys gofal iechyd, amaethyddiaeth, deunyddiau a gweithgynhyrchu, AI a gweithredu ar yr hinsawdd.

Mae'r rhaglen amlddisgyblaethol hon, sy'n berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd â chefndir mewn Peirianneg (fecanyddol, awyrofod, sifil neu drydanol) neu Wyddoniaeth (mathemateg a ffiseg) yn datblygu eich sgiliau peirianneg gyfrifiadol ymhellach gan gynnwys rhaglennu, cynnwys dulliau rhifiadol a dulliau dysgu peirianyddol gyda data mawr ar gyfer datrys problemau peirianneg a gwyddoniaeth yn y byd go iawn.

Byddwch yn ennill sylfaen gref o ran damcaniaeth ac ymarfer, gan ddysgu sut mae modelu cyfrifiadol yn ategu gwneud penderfyniadau peirianneg a gwyddonol, yn ogystal â'i rôl bwysig mewn meysydd ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n dod i'r amlwg.

Gallwch astudio'r cwrs yn amser llawn dros flwyddyn, gyda'r opsiwn i gynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant ychwanegol.

Pam astudio Peirianneg Gyfrifiadol yn Abertawe?

Wedi'ch lleoli ar ein Campws y Bae hyfryd, yn edrych dros Fae Abertawe, mae Peirianneg Gyfrifiadol yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Yn safle 151-200 yn y byd am Beirianneg (Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu) (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2026)
  • 100% o'n hamgylchedd yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021) 

Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal safle rhyngwladol o fri ym maes Peirianneg Gyfrifiadol ers y 1960au, gyda chyrhaeddiad yr Athro Zienkiewicz. Caiff yr Athro Zienkiewicz ei adnabod yn rhyngwladol fel "Tad y Dull Elfennau Cyfyngedig" gan sefydlu'r International Journal of Numerical Methods in Engineering a Chymdeithas y DU ar gyfer Mecaneg Gyfrifiadol.

Eich Profiad Peirianneg Gyfrifiadol

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion blaenllaw o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data ac AI, mae nhw oll yn meddu ar brofiad eang o greu dulliau rhifiadol newydd a chyflwyno offer cyfrifiadol sydd wedi cael eu mabwysiadu gan ddiwydiant, gan gynnwys Airbus, BAE Systems, Chevron, NASA, SEAT, Siemens, Volkswagen.

Byddwch yn elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys mynediad at feddalwedd arbenigol i gwblhau eich traethawd hir, a'n hystod o gyfleusterau cyfrifiadureg perfformiad uchel gan gynnwys Canolfan Effaith Ragoriaeth a Chyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru, gyda chyfanswm o 4920 gof craidd a 47Tb o gof RAM.

Cynghorir y cwrs gan Bwyllgor Llywio Diwydiannol gydag arbenigwyr diwydiannol ar beirianneg gyfrifiadol gan gynnwys Rolls Royce, Altair, Siemens, Hexagon, ITI Limited, Rockfield, Peritus a Pebble Engineering, gan sicrhau bod eich dysgu ar flaen y gad o ran datblygiad diwydiannol.

Gallwch astudio'r cwrs yn amser llawn dros flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnig opsiwn astudio dwy flynedd sy'n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, gan eich galluogi chi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch naill ai'n cwblhau lleoliad ym myd diwydiant neu brosiect sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant lle byddwch yn gweithio ar her go iawn ar y cyd ag un neu fwy o'n partneriaid diwydiant.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Wrth gwblhau'r radd MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol, gallwch fod yn hyderus mewn rhagolygon gyrfa da, gyda galw mawr am rolau graddedigion mewn ystod eang o ddiwydiannau a sectorau a chyda rhai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd gan gynnwys Amazon, Microsoft, Pfizer Boeing, Hp, Chevron, Coca-Cola, ExxonMobil, Apple, General Dynamics, Intel, Meta, Nike, Tesla ac IBM.

Mae rolau i raddedigion yn cynnwys:

  • Peiriannydd Cyfrifiadol
  • Peiriannydd Modelu
  • Peiriannydd Efelychu

Efallai yr hoffech ddilyn eich diddordebau ymchwil, megis PhD neu weithio yn y byd academaidd.