Rydym yn llawn cyffro i gynnig cwrs MSc gyda Diwydiant* ar y cyrsiau gradd canlynol:
Am ein Rhaglenni MSc gyda Diwydiant
*Sylwer, dim ond i fyfyrwyr Rhyngwladol y mae'r rhan fwyaf o'n rhaglenni MSc gyda Diwydiant ar gael.
Mae MSc Realiti Rhithwir gyda Diwydiant, Peirianneg Bwer ac Ynni Cynaliadwy gyda Diwydian ar gael i fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol.
Mae’r rhaglenni hyn yn estyniad i’r graddau MSc presennol ac maent yn cynnwys ail flwyddyn ychwanegol.
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn gwneud un o’r canlynol:
- Lleoliad diwydiannol
neu - Brosiect yn seiliedig ar y diwydiant i weithio ar her bywyd go iawn a wneir ar y cyd ag un neu sawl partner diwydiannol.
Ffioedd y cwrs ail flwyddyn yw £3120 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr Cartref.
Gallwch gael dwy flynedd o brofiad yn y DU a'r cyfle i gydweithio â diwydiant ar her bywyd go iawn.
Bydd Prifysgol Abertawe yn cefnogi'r myfyriwr i ddod o hyd i leoliad neu brosiect, fodd bynnag, ni warentir y prosiect neu'r lleoliad gwaith yn yr ail flwyddyn. Os na fyddwch yn gallu sicrhau prosiect neu leoliad, cewch eich trosglwyddo i’r rhaglen MSc un flwyddyn o hyd.
Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cefnogi eich cais am Fisa dwy flynedd o hyd.
Rhowch hwb i’ch cyfleoedd gyrfa
Gavin Bunting, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd:
“Mae’r radd MSc gyda Diwydiant yn rhaglen ystwyth sy’n rhoi llawer iawn o gymorth i fyfyrwyr i sicrhau lleoliad gwaith allanol, ond hefyd gallant ddewis ymgymryd â lleoliad gwaith ymchwil mewn diwydiant yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Mae’r rhaglen yn helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau technegol a rhyngbersonol ac ychwanegu profiad gwaith sylweddol at eu CV sy’n chwarae rôl hollbwysig ar gyfer cyfleoedd i raddedigion. Ynghyd â’r cwrs MSc a addysgir, mae’r rhaglen MSc gyda Diwydiant yn rhaglen ôl-raddedig hynod gynhwysfawr sy’n cyd-fynd ag anghenion presennol amgylchedd peirianneg amlddisgyblaethol.”
PROFIAD LLEOLIAD DIWYDIANNOL
"Y gweithrediad ymchwil ac arloesi Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol sy'n cynnal y lleoliad. Y prif beth rydw i wedi'i ddysgu yn ystod fy astudiaethau yw pwysigrwydd yr amgylchedd a ...sicrhau nad yw byth yn cael ei niweidio gan y diwydiannu a welir yn y byd ar hyn o bryd.
Yr hyn sy'n gwneud imi fwynhau'r lleoliad fwyaf yw gweithio ar y prosiect hwn bob dydd a gweld angerdd amlwg fy nghydweithwyr am y pwnc penodol hwn. Ar ben hynny, mae'r tîm yn fy nghefnogi'n fawr iawn ac yn gwneud imi fwynhau pob dydd ar y lleoliad."
PROFIAD LLEOLIAD DIWYDIANNOL
"Mae fy lleoliad diwydiannol mewnol yn ymwneud â’r gwaith o ddylunio a datblygu car robotig awtonomaidd a reolir o bell gyda thechnegau deallusrwydd artiffisial.
Rydw i wir yn mwynhau’r ymdeimlad amlwg iawn o waith tîm, cyfathrebu effeithiol ac ymchwil drylwyr a gaiff ei annog ar y lleoliad. Rydym yn rhan o brosiectau cyffrous ac arloesol... [mae hyn] wedi rhoi imi ymdeimlad cryf o alluoedd ymchwil a ffordd broffesiynol o fynegi fy syniadau er mwyn datrys problemau go iawn yn y byd.
Trwy’r tîm cyflogadwyedd, clywais i am hysbyseb swydd, cyflwynais i gais am y swydd a chefais i fy nerbyn ar gyfer y swydd pan oeddwn i’n dal i ymgymryd â’m rhaglen astudio."