Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o safon wedi'i llywio gan ymchwil sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol. Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi cyfle i chi feithrin cysylltiadau â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned ehangach y Brifysgol.
Mae ein prif ddulliau dysgu ac addysgu'n cynnwys:
- Darlithoedd mawr: Cysyniadau damcaniaethol craidd a gyflwynir i'r holl fyfyrwyr
- Seminarau a thiwtorialau mewn grwpiau bach:Trafodaethau rhyngweithiol a datrys problemau
- Labordai cyfrifiaduron: Hyfforddiant ymarferol gyda meddalwedd safonol y diwydiant
- Gweithdai ymarferol ac ymweliadau safle:Profiad o'r byd adeiladu go iawn
- Sesiynau a arweinir gan ddiwydiant:Cyflwynir gan weithwyr proffesiynol TWF a darlithwyr gwadd
- Gwaith grŵp/cyflwyniadau: Annog gweithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu
Gallai eich dysgu gael ei asesu drwy waith cwrs, adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar i asesu eich ymwybyddiaeth feirniadol o egwyddorion rheoli adeiladu; arholiadau traddodiadol a phrosiectau ymarferol sy'n asesu eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau allweddol a’ch gallu i’w cymhwyso; adroddiadau a chyflwyniadau myfyriol i asesu rhesymu dadansoddol a gwneud penderfyniadau; ymarferion efelychu a hyfforddiant meddalwedd technegol i gynorthwyo cymhwyso dysgu yn y byd go iawn; prosiectau grŵp ac ymarferion arweinyddiaeth i ddatblygu gwaith tîm a sgiliau gwneud penderfyniadau, a phrosiectau ymchwil hunangyfeiriedig sy'n hyrwyddo cyfranogiad dyfnach yn y maes pwnc.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad dysgu. Gallai’r rhain gynnwys:
- Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac adolygu hyblyg
- Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol (Canvas), lle ceir deunyddiau darlithoedd, aseiniadau, fforymau trafod a chyhoeddiadau.
Sylwer: Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio â Fisa Llwybr Myfyrwyr, sylwer y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol Abertawe yn bresennol) yn cael eu cynnal ar y campws. Yn unol â phrotocol UKVI, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a bydd data ar gael ar gais.