Mae'r radd LLB Cyfraith Busnes ym MhrifysgolAbertawe'nrhaglen arbenigol sy'n paratoi am yrfa rhwng y gyfraith a busnes.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd, ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith ar weithgarwch fasnachol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sydd ei angen gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr.
Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddatblygu arbenigedd drwy fodiwlau busnes gorfodol megis Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Masnach Ryngwladol a Gwerthiannau Masnachol gydag ystod eang o fodiwlau dewisol. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth feithrin proffil cyfraith busnes cryf.
Pam Cyfraith Busnes yn Abertawe?
Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.
Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.
Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.
Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:
Un o’r 125 o Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd The Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
Mae ymhlith 101-150 prifysgol orau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)
Eich Profiad Cyfraith Busnes
Mae ein rhaglen Cyfraith Busnes yn rhoi pwyslais cryf ar eich arfogi â'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.
Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau aml-ddewis, sy'n nodwedd allweddol o'r SQE, yn sicrhau ymhellach eich bod wedi'ch paratoi ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.
Mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch ddarparu cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.
Mae'r LLB yn rhoi cyflwyniad trylwyr i chi i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, wrth greu'r hyblygrwydd sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau chi, a all gynnwys ystod o sectorau oherwydd amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio modiwlau sylfaenol gorfodol, gan gynnwys Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, a Sgiliau Cyfreithiol (Y Gyfraith, Proffesiynoldeb a Moeseg). Mae'r ail flwyddyn yn cynnwys mwy o fodiwlau gorfodol, gan gynnwys Cyfraith Tir, Ecwiti, Cyfraith Trosedd a Gwerthiannau Masnachol, ynghyd ag un modiwl opsiynol sy'n eich galluogi i astudio pwnc sy'n benodol i'ch diddordebau a’ch uchelgeisiau.
Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio Cyfraith yr UE, Cyfraith Masnach Ryngwladol a Chyfraith Cwmnïau. Mae'r 60 credyd sy'n weddill yn opsiynol, gan roi'r gallu i chi ddewis o ystod eang o fodiwlau arbenigol sy'n rhychwantu ystod eang o feysydd. Erbyn hyn, byddwch wedi astudio'r holl bynciau sylfaenol a bydd gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud y gorau o'ch modiwlau dewisol.
Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ac asesu i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau a dewisiadau o ran dysgu. Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, addysg gyfreithiol glinigol, a chyfleoedd dysgu drwy brofiad. Defnyddir offer digidol fel arolygon byw a chwisiau hefyd i wella ymgysylltiad a chyfranogiad, gan sicrhau y gallwch gyfrannu'n weithredol at eich profiad dysgu eich hun. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys ystod eang o wahanol ddulliau, yn amrywio o arholiadau traddodiadol ar y safle i sesiynau briffio cyfreithiol.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau megis Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain Asia, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.
Os hoffech gwblhau LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Cyfraith Busnes ar Waith.
Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfraith Busnes
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gyda chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Byddwch yn cael cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.
Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.
Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.
Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.
Mae graddedigion y rhaglen LLB Cyfraith Busnes yn ennill y sgiliau i ddilyn ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys fel cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal â rolau yn y sectorau busnes, cyllid, masnach ryngwladol a chyhoeddus.
Mae gan y rhaglen hon hanes profedig o gyflwyno addysg o ansawdd syn arfogi myfyrwyr â'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i gyflawni dyheadau eu gyrfa.
Modiwlau
Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.
Modiwlau
LLB (Anrh)
3 Blynedd
Llawn Amser
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :It is not a requirement for you to complete LAA339 Dissertation. If you would like to select Dissertation module, please ask application form from solstudy@swansea.ac.uk. Please ensure that credits are balanced across both semesters.
You are not able to take this module if you have pursued LAA212. There is a welsh version of this module LAA303C, you can only select either LAA303 or LAA303C.
There is an application procedure and there are eligibility criteria. If you intend to apply to take a dissertation module, please see the Dissertation Handbook on Canvas HUB:Law. While you wait to hear whether your application for dissertation is successful, please choose the module you would wish to take if you were not permitted to take the dissertation module. If you are accepted onto the dissertation module, we will make the necessary changes to your module selection.
Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :It is not a requirement for you to complete LAA339 Dissertation. If you would like to select Dissertation module, please ask application form from solstudy@swansea.ac.uk. Please ensure that credits are balanced across both semesters.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Choose Exactly 30 credits from the following modules. Lectures will be delivered in English, seminars for the Welsh option will be conducted in Welsh.
Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :It is not a requirement for you to complete LAA339 Dissertation. If you would like to select Dissertation module, please ask application form from solstudy@swansea.ac.uk. Please ensure that credits are balanced across both semesters.
You are not able to take this module if you have pursued LAA212. There is a welsh version of this module LAA303C, you can only select either LAA303 or LAA303C.
There is an application procedure and there are eligibility criteria. If you intend to apply to take a dissertation module, please see the Dissertation Handbook on Canvas HUB:Law. While you wait to hear whether your application for dissertation is successful, please choose the module you would wish to take if you were not permitted to take the dissertation module. If you are accepted onto the dissertation module, we will make the necessary changes to your module selection.
Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :It is not a requirement for you to complete LAA339 Dissertation. If you would like to select Dissertation module, please ask application form from solstudy@swansea.ac.uk. Please ensure that credits are balanced across both semesters.
Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar
ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol,
wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf
o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi'r cyfle i
chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned
ehangach y brifysgol.
Gallwch ddisgwyl cymysgedd o
ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol -
gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio
lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i
annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r
pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad
dysgu. Gall y rhain gynnwys:
Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac
adolygu hyblyg.
Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn
enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y
brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a
fforymau trafod.
Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich
amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Efallai bydd y cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau sy’n cael eu haddysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler
yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.
N.B. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio gyda Fisa Llwybr
Myfyrwyr, sylwch y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd
ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol
Abertawe yn bresennol) yn digwydd ar y campws.Yn unol â phrotocol Fisâu
a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a
bydd data ar gael ar gais.
Mae'n bosib astudio o leiaf 40 credyd o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym
yn cynnig:
Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
Cefnogaeth un i un yn y Gymraeg i wella eich sgiliau academaidd.
Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n
dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr, sef Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg a
CBAC.
Arbenigwyr sy’n addysgu eich graddau yn y Gyfraith, y mae rhai ohonynt yn ymarferwyr cyfreithiol profiadol ac y mae ganddynt oll gyfoeth o wybodaeth gyfreithiol i’w throsglwyddo i’n myfyrwyr.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein harbenigedd academaidd ar y tudalennau staff.
Gall ffïoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn y DU gynyddu ym mlynyddoedd dilynol astudio yn unol â'r uchafswm ffi reoledig a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Teithio i'r campws ac oddi yno
Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
Ysgrifennu academaidd
Mathemateg ac ystadegau
Meddwl critigol
Rheoli amser
Sgiliau digidol
Sgiliau cyflwyno
Cymryd nodiadau
Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n
tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn
gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer
gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os
na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor,
cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester
neu flwyddyn dramor.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer,
mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka,
De Corea, Fiji, Bali, UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch
rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n
tudalennau gwe Haf Dramor.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.
Yn Abertawe, mae gennym ystod o gymdeithasau sy'n canolbwyntio ar y Gyfraith, sy'n cynnig cyfleoedd i chi gwrdd â chyd-fyfyrwyr a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Cynhelir y cymdeithasau hyn gan fyfyrwyr i fyfyrwyr ac maent yn cynnwys:
Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r
disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg eich
cais. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n
angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs naill
ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Mae'r wybodaeth isod ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2016 neu
wedi hynny.
Fel arfer, ni fydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau sylweddol iawn i gyrsiau
(er enghraifft, newid teitl y cwrs, ailstrwythuro sylweddol, newid sylweddol
yng nghynnwys y cwrs, neu gyflwyno rhwystr i ddilyniant) a fyddai'n
effeithio ar fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau eu cwrs. Mewn amgylchiadau
eithriadol, gall fod angen i'r Brifysgol wneud y fath newid ar ôl i ddeiliad
cynnig dderbyn lle. Ni fydd hyn yn digwydd llai na 5 mis cyn cofrestru.
Caiff deiliad y cynnig ei hysbysu am y newid a chyfle i dynnu ei gais yn ôl
a gwneud cais i sefydliad arall.
Gellid gwneud newidiadau eraill yng nghynnwys y cwrs, y lleoliad astudio, y
dulliau cyflwyno a'r ddarpariaeth addysgu oherwydd datblygiadau yn y pwnc
dan sylw, gwelliannau i arfer addysgu neu asesu, gofynion prosesau achredu
allanol, newidiadau staffio, cyfyngiadau o ran adnoddau neu newidiadau o ran
argaeledd cyfleusterau. Bydd newidiadau o'r fath yn ystyried disgwyliadau
rhesymol darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.
Crynodeb o'r Newidiadau
Dyddiad y Newid
10/02/2026
Course Title(s)
Cyfraith Busnes,
LLB (Anrh)
3 Blynedd
Llawn Amser
(M28G)
Cyfraith Busnes
Gyda Blwyddyn Dramor,
LLB (Anrh)
4 Blynedd
Llawn Amser
(M28A)
Newidiad o Bwys
Mae newidiadau i strwythur credydau'r rhaglen hon ar fwy nag un lefel astudio yn ogystal â newidiadau sylweddol i strwythur y rhaglen sy'n effeithio ar a yw modiwlau'n orfodol neu'n ddewisol.
Rheswm dros y Newid
Mae'r diweddariadau hyn wedi'u cynllunio i wneud eich profiad dysgu'n fwy syml, perthnasol a haws i'w reoli.