Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol am bedair blynedd sy'n cyfuno astudio'r gyfraith ag archwiliad manwl o systemau gwleidyddol, llywodraethiant a deinameg pŵer, wrth hefyd ddarparu profiad gwerthfawr yn y gweithle.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd, ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o sut mae fframweithiau cyfreithiol yn gweithredu mewn cyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach, wrth archwilio'n feirniadol rôl y gyfraith wrth lunio llywodraethiant a pholisi cyhoeddus.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sydd ei angen gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr.
Yn nhrydedd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Wrth i chi symud ymlaen, gallwch ddatblygu arbenigedd mewn pynciau gwleidyddol fel gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang a pholisi cyhoeddus Prydain, gan eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth ddatblygu arbenigedd ar draws dwy ddisgyblaeth gyflenwol.