Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol am pum mlynedd sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar y croestoriad rhwng y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol wrth hefyd roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.
O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Ochr yn ochr â'r meysydd craidd hyn, byddwch yn astudio modiwlau cysylltiadau rhyngwladol sy'n archwilio pynciau fel Cysylltiadau Rhyngwladol mewn Byd sy'n Newid, a Chyfiawnder Byd-eang a Hawliau Dynol yn Oes Globaleiddio. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae'r gyfraith yn rhyngweithio â gwleidyddiaeth ryngwladol a gwneud penderfyniadau byd-eang.
Yn ystod pedwaredd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Wrth i chi symud ymlaen, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol yn y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Mae opsiynau yn y gyfraith yn cynnwys Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu, a Masnach Ryngwladol, a gallai opsiynau cysylltiadau rhyngwladol gynnwys Diogelwch Rhyngwladol, Rhyfeloedd Cudd De'r Byd neu America a'r Bom. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a datblygu arbenigedd ar draws dwy ddisgyblaeth gyflenwol.