Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd Nyrsio (Plant) BSc (Anrh) yn radd amser llawn dros gyfnod o 3 blynedd, sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac wedi'i chomisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae wedi'i chynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer cofrestriad fel nyrs plant broffesiynol yn un o'r pedwar maes ymarfer nyrsio.
Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei hysgogi gan werthoedd, mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais ar dosturi, cynwysoldeb, a phartneriaeth â phobl, teuluoedd a chymunedau. Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol ac atebol a all ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas a chyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.
Drwy gydol y radd hon, byddwch yn dysgu am anghenion iechyd a lles cyfannol plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd.
Drwy gyfuniad o astudio academaidd a phrofiad clinigol ymarferol, byddwch yn datblygu'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i ddarparu gofal nyrsio plant a mesurau diogelu iechyd o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol. Byddwch yn aml yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Caiff hanner y rhaglen ei addysgu yn y Brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Diolch i'n partneriaethau cryf â darparwyr gofal iechyd ar draws de-orllewin Cymru, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o amgylcheddau dysgu clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau gwaith yn y GIG a'r sector annibynnol, mewn ysbytai ac yn y gymuned.
Caiff myfyrwyr eu cefnogi i gyflawni Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018), gyda deilliannau'r rhaglen wedi'u mapio yn unol â phedwar piler ymarfer nyrsio: ymarfer clinigol, arweinyddiaeth, addysg ac ymchwil. Erbyn i chi raddio, bydd gennych chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd proffesiynol i ddarparu gofal diogel, effeithiol a chyfannol, eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaethau, a gweithio'n gydweithredol mewn timau amlbroffesiwn.