Trosolwg o'r Cwrs
Gall ein gradd BA (Anrh.) Gwleidyddiaeth agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol drwy eich helpu i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.
Mae'r radd tair blynedd yn cynnwys archwilio gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, a damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol.
Mae gennych gyfle ar gyfer interniaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac astudio modiwl Astudiaethau Seneddol Prydeinig, a addysgir yn rhannol gan staff arbenigol o'r Senedd.
Mae Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn y deg uchaf yn y Deyrnas Unedig am brofiad addysgu (The Times and The Sunday Times 2018).