Trosolwg o'r Cwrs
Gall ein gradd BA (Anrh.) Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol drwy eich helpu i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad i chi i addysg uwch, gan ymchwilio'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i raglen radd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig o gefnogaeth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod y tu allan i addysg.
Mae'r radd ei hun yn cynnwys archwilio gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, a damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol.
Mae gennych gyfle ar gyfer interniaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac astudio modiwl Astudiaethau Seneddol Prydeinig, a addysgir yn rhannol gan staff arbenigol o'r Senedd.
Mae Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn y 10 Gorau yn y DU am Foddhad â’r Cwrs (Guardian University Guide 2022)