Dyma ofynion mynediad y cwrs Peirianneg Awyrofod BEng:
ABB-BBB Safon Uwch (gan gynnwys Mathemateg).
Dyma rai pynciau eraill rydym yn eu hargymell:
Ffiseg
Mathemateg Bellach
Cemeg
Dylunio a Thechnoleg
TGCh/Cyfrifiadureg
Bioleg
Gall y cynnig a gewch amrywio’n ôl y pynciau rydych yn eu hastudio a chaiff pob cais ei ystyried ar wahân, a hynny ar sail graddau TGAU, pynciau a graddau UG, profiad gwaith, llythyrau geirda a datganiadau personol.
Neu 32 yn gyffredinol gyda naill ai 5 mewn Mathemateg: dadansoddi ac ymagweddau ar y Lefel Uwch (neu 6 ar y Lefel Safonol), neu 5 mewn Mathemateg: cymwysiadau a dehongli ar y Lefel Uwch (neu 7 ar y Lefel Safonol)
Os yw myfyrwyr yn dilyn cwrs BTEC mewn pynciau perthnasol, bydd angen D*D*D* - D*D*D, gan gynnwys B mewn Mathemateg Safon Uwch. Os nad ydych yn dilyn cwrs Mathemateg Safon Uwch, bydd angen o leiaf D yn y modiwlau ‘Mathemateg i Dechnegwyr’ a D mewn ‘Mathemateg Bellach i Dechnegwyr’ y BTEC. Mae angen i fyfyrwyr hefyd fod ag o leiaf dau gymhwyster TGAU gradd A , gan gynnwys gradd B, o leiaf, mewn Mathemateg a dau bwnc gwyddonol arall.
Gwybodaeth am ofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Bydd myfyrwyr sydd â phrofiad a chymwysterau diwydiannol yn cael eu hystyried fesul achos. Os ydych chi wedi astudio cymwysterau mynediad neu alwedigaethol, fe'ch cynghorir i wneud cais am y Flwyddyn Sylfaen Integredig.
Os ydych chi'n gwneud cais am fynediad Lefel Dau (ail flwyddyn), er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi fod eisoes wedi ymdrin â'r pynciau a gynigir yn Abertawe ar Lefel Un (blwyddyn gyntaf) mewn cymhwyster ardystiedig, gyda sgôr cyffredinol uchel.