Blwyddyn Mewn Diwydiant

Pam astudio ar gwrs blwyddyn mewn diwydiant?

Mae cyflogwyr yn gynyddol yn chwilio am raddedigion sydd â phrofiad mewn diwydiant. Os ydych chi'n astudio ar gwrs BEng cewch gyfle i ddilyn blwyddyn mewn diwydiant rhwng eich ail flwyddyn astudio a'ch trydedd flwyddyn astudio. Fodd bynnag os ydych chi'n astudio ar gwrs MEng gallwch dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng eich trydedd flwyddyn a'ch pedwaredd flwyddyn. Fel arfer cewch eich talu am hyn a gallwch weithio yn y Deyrnas Unedig neu dramor.

Mae ein myfyrwyr wedi gweithio gyda Mercedes AMG, Valero, Jaguar Land Rover, GE Aviation, Laing O'Rourke ac Atkins. 

Manteision blwyddyn mewn diwydiant

  • Helpu i ddatblygu'r sgiliau allweddol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt
  • Ehangu eich rhwydweithiau proffesiynol
  • Eich galluogi i droi theori'r ystafell ddosbarth yn ymarfer byd go iawn

 

ADAM: BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT YN ROLLS-ROYCE