Buddion Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae llawer o'n myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'u gradd, a all ddod â manteision sylweddol i'r cwmni dan sylw a'r myfyriwr sy'n gweithio o fewn y cwmni.
Gallwch dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o raglen gradd mewn BEng neu MEng.
Fel rhan o'ch cwrs israddedig, gall Blwyddyn mewn Diwydiant wella eich gradd a'ch gyrfa yn y dyfodol yn sylweddol. Drwy'r cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Meithrin eich hyder mewn amgylchedd gwaith
- Gwella eich siawns o gael gwaith ar ôl i chi raddio drwy ddarparu tystiolaeth o brofiad gwaith
- Ennill cyflog gyda blwyddyn allan o'r brifysgol (cyflog o £16k, ar gyfartaledd, yn ystod blwyddyn y lleoliad)
- Cael cyfle i wella sgiliau technegol ac annhechnegol drwy hyfforddiant a ddarperir gan y cwmni
- Gwella eich gallu i gynllunio
- Cynyddu eich ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blaenoriaethau a therfynau amser go iawn
- Rhoi eich sgiliau adrodd a chyflwyno ar waith
- Cynyddu lefel eich cymhwysedd tuag at Statws Proffesiynol
- Datblygu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant
- Gwella eich ymwybyddiaeth o feini prawf busnes yn gyffredinol
Mae gwaith dadansoddi ystadegau hefyd yn cynnig tystiolaeth bod cyfranogi mewn cynllun lleoliad yn gwella eich siawns o gael gradd ail ddosbarth uwch neu radd dosbarth cyntaf.
Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn llwyddiannus, mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael credyd o hyd at flwyddyn a fydd yn eich galluogi i ennill Statws Peirianneg Broffesiynol Gorfforedig neu Siartredig mewn llai o amser.
Drwy flwyddyn y lleoliad, byddwch yn cael mynediad i'r amgylchedd gwaith penodol, gan gynnwys y math o waith, trefniadaeth y cwmni, y diwylliant a chyfleoedd pellach.
Adborth myfyrwyr
Dysgwch fwy gan ein myfyrwyr sydd wedi cwblhau blwyddyn eu lleoliad ar dudalen we ein myfyrwyr Blwyddyn mewn Diwydiant a blwyddyn eu lleoliad.
"Roedd y Flwyddyn mewn Diwydiant yn brofiad defnyddiol iawn lle y gwnes i feithrin llawer o sgiliau a ddysgwyd yn uniongyrchol o brofiadau go iawn y gellir eu cymhwyso at gyflogaeth ac astudiaethau yn y brifysgol yn y dyfodol."
"Mae'r lleoliad diwydiannol wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Drwy fod mewn amgylchedd proffesiynol gwellodd fy natblygiad personol ac roedd yn brofiad gwerthfawr ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol."
"Roedd y Flwyddyn mewn Diwydiant yn brofiad gwych. Gwellodd fy hyder ac roedd yn dda i'm CV."
"Yn bendant, byddwn yn annog myfyrwyr blwyddyn gyntaf i dreulio blwyddyn mewn lleoliad, am ei fod yn brofiad na all neb ei gael ar ôl graddio, oherwydd yr ymrwymiadau. Mae'n rhoi cyfle i chi benderfynu pa faes gwaith rydych yn ei fwynhau."