Aungshu Rahman, GE Aviation

Aungshu yn MINI BMW

"Roedd fy nghwrs yn cynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant ac i mi roedd yn gyfle gwych.  Fe wnes i fwynhau fy ngwaith yn fawr iawn. Yn ogystal â rhoi profiad gwerthfawr i mi, gwnaeth fy helpu i sylweddoli i ble rwyf am fynd yn y dyfodol.

Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn darparu pwynt bwled pwysig iawn ar gyfer fy CV. Heddiw, mae angen treulio Blwyddyn mewn Diwydiant nid yn unig er mwyn cael canlyniad da iawn, ond hefyd am y byddwch yn sicr o fynd i frig y rhestr os bydd gennych brofiad ymarferol â gradd dda.

Roedd fy Mlwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle da i gael saib o astudio a gwnaeth fy helpu yn ariannol am fod pob lleoliad yn talu'n dda."

Andy Dodd, Mercedes AMG

Andy Dodd yn MIRA

"Dewisais integreiddio Blwyddyn mewn Diwydiant yn fy nghwrs er mwyn i mi allu datblygu sgiliau a phrofiad yn y diwydiant. Roedd hyn yn golygu y byddwn yn gallu cymhwyso blwyddyn olaf fy nghwrs at sefyllfa waith go iawn ac y byddwn i'n fwy cyflogadwy ar ôl graddio am fy mod i wedi datblygu set o sgiliau proffesiynol.

Bues i'n gweithio gyda'r tîm electroneg, gan ddylunio a datblygu cyfarpar min trac a chynnal profion ar fyrddau cylched yn y systemau adennill a storio ynni yn unedau pŵer y Mercedes F1.

Rhoddodd y Flwyddyn mewn Diwydiant gyfle i mi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy megis trefnu, cyfathrebu ac ysgrifennu adroddiadau, yn ogystal ag electroneg ymarferol. Hefyd, defnyddiais amrywiaeth o feddalwedd broffesiynol na fyddwn i wedi cael y cyfle i'w defnyddio fel arall."

Oliver Brooks, Laing O'Rourke

Oliver Brooks

"Roedd blwyddyn fy lleoliad yn wych am fy mod wedi cael cyfle i weithio ar ddau brosiect seilwaith mawr ar bob ochr i'r byd. Y prosiect cyntaf oedd gwaith trin dŵr gwerth mwy na $500m yn Queensland, Australia. Ar ôl treulio 10 mis ar y prosiect hwnnw symudais yn ôl i'r DU i weithio ar brosiect uwchraddio Gorsaf Bond Street yn Llundain.

Drwy gydol y flwyddyn bu'n rhaid i mi ymgymryd â rolau gwahanol ac roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod yn rhan bwysig o'r tîm. Pan oeddwn i yn Awstralia, roeddwn i'n ymwneud â rheoli'r pecyn o waith concrid yn y fan a'r lle ar y safle. Ar ddiwedd fy 10 mis ar y prosiect, roedd gen i gyfrifoldebau eang o ryngweithio â'r cleient, isgontractwyr a chyflenwyr i gynllunio gwaith a sicrhau ansawdd.

Rwyf bellach yn sgolor gyda'r cwmni y bues i'n gweithio iddo yn ystod fy Mlwyddyn mewn Diwydiant ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu gydag ef ar ôl i mi raddio."

Annabelle Boardman, Zimmer Biomet

Annabelle Boardman

"Ar gyfer fy Mlwyddyn mewn Diwydiant, roeddwn yn Beiriannydd Datblygu Myfyrwyr yn Zimmer Biomet, yn dylunio a datblygu cluniau amnewid ac offer lawfeddygol. Pan fyddaf yn graddio, byddaf yn dychwelyd i'r un cwmni fel Peiriannydd Datblygu.

Fy nghyngor i eraill sy'n chwilio am leoliad fyddai dal ati i geisio a pheidio â bod ofn anfon e-bost at gwmnïau bach nad ydyn nhw'n hysbysebu Blwyddyn mewn Diwydiant - mae llawer o gwmnïau erioed wedi clywed am y cynllun o'r blaen. A bydd y Tîm Cyflogadwyedd hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi wrth chwilio am leoliadau/swyddi. Maent bob amser yno i gynnig cefnogaeth.

Fy hoff atgofion o fy nghyfnod ym Mhrifysgol Abertawe yw fy Mlwyddyn mewn Diwydiant, bod yn Drysorydd y Gymdeithas Peirianneg Feddygol a gwneud llawer o ffrindiau gwych."

Johan Yap, PY Konsep

Man sat at a desk with a large sheet in his hands

"Byddwn i’n argymell yn gryf [cyflawni Blwyddyn mewn Diwydiant yn eich gwlad gartref] yn enwedig yn sgil y pandemig. Roedd modd i mi gyflawni lleoliad gwaith a gymeradwywyd gan y Brifysgol heb deithio’n bell o gartref. Mae’n sefyllfa ennill-ennill.

Mae astudio yn y Deyrnas Unedig ond cyflawni lleoliad gwaith ym Malaysia yn eich gwneud chi’n ymwybodol o dueddiadau a materion byd-eang, gan roi’r adnoddau i chi ddatrys problemau gan ddefnyddio ymagwedd y wlad arall. 

Mae’r lleoliadau gwaith hyn yn helpu myfyrwyr i greu rhwydweithiau yn eu gwlad gartref cyn graddio. Os bydd myfyrwyr yn llwyddo, bydd ganddynt siawns well o ennill swydd i raddedigion gystadleuol ar ddychwelyd adref."