Cyn ac yn ystod blwyddyn y lleoliad

Drwy ddewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'u gradd yn y Gwyddoniaeth a Pheirianneg, gallwch ddisgwyl cael y canlynol:

  • Cefnogaeth lawn i sicrhau lleoliadau diwydiannol
  • Cyfres o sesiynau paratoi
  • Deunyddiau cymorth lleoliad
  • Gwybodaeth am gyflogwyr addas sy'n cynnig lleoliadau drwy gydberthnasau hirsefydlog â nifer fawr o gyflogwyr peirianneg
  • Ymweliadau gan diwtoriaid lleoliad yn y gweithle

Mae gennym dîm o fentoriaid yn y Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Byddant yn trefnu darlithoedd cyn lleoliad ar eich cyfer, fel myfyriwr Blwyddyn mewn Diwydiant, er mwyn eich paratoi ar gyfer gwaith, byddant yn darllen CVs a ffurflenni cais ac yn eu cymeradwyo, a byddant yn rhoi cymorth i chi yn ystod y cyfnod gwneud cais.

Yn ystod blwyddyn y lleoliad, bydd y mentor yn ymweld â chi fel myfyriwr lleoliad yn eich gweithle, er mwyn sicrhau eich bod wedi mynd drwy broses sefydlu a'ch bod wedi setlo yn y cwmni. Bydd hefyd yn sicrhau bod y rhaglen waith yn briodol i flwyddyn y lleoliad, gan eich galluogi i gael y budd mwyaf posibl o'ch cyfnod yn y cwmni.

Strwythur Blwyddyn mewn Diwydiant - y flwyddyn baratoi

Semester 1

  • Darlithoedd paratoi ar gyfer swydd
  • Paratoi CVs a llythyrau eglurhaol
  • Paratoi ffurflenni cais
  • Paratoi ar gyfer asesiadau sgiliau a phrofion seicometrig
  • Technegau cyfweld a chyfweliadau ffug
  • Sgiliau gweithio mewn tîm
  • Cyflwyniadau gan gwmnïau sy'n chwilio am fyfyrwyr lleoliad
  • Cyflwyniadau gan fyfyrwyr sydd newydd ddychwelyd i'r brifysgol ar ôl blwyddyn eu lleoliad diwydiannol
  • Trafod cyfleoedd gwaith a chwestiynau
  • Cyngor a chymorth parhaus un-i-un
  • Rhestr o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau
  • Sesiynau allsefydlu / rhwydweithio

Semester 2

  • Sesiynau galw heibio i drafod cyfleoedd a chwestiynau
  • Cyflwyniadau gan gwmnïau
  • Parhau â cheisiadau/cyfweliadau
  • Darlith ar Iechyd a Diogelwch cyn gadael i ymgymryd â'r lleoliad
  • Cyfweliadau ffug

Strwythur Blwyddyn mewn Diwydiant - blwyddyn y lleoliad

Bydd gan bob myfyriwr Diwtor Blwyddyn mewn Diwydiant drwy gydol ei leoliad a fydd yn gwneud y canlynol:

  • Ymweld â myfyrwyr yn y gweithle neu eu ffonio gan ddefnyddio Skype er mwyn sicrhau:
    • Amgylchedd gwaith addas
    • Rhaglen waith addas
    • Bod y myfyriwr wedi mynd drwy broses sefydlu briodol
    • Bod cynnydd yn cael ei wneud o ran bodloni gofynion portffolio'r Brifysgol
    • Bod llawlyfr bugeiliol ar gael
  • Cysylltu â rheolwr llinell neu oruchwyliwr lleoliad y myfyriwr er mwyn drafod cynnydd y myfyriwr
  • Trafod unrhyw gwestiynau o'r gweithle neu gan y myfyriwr
  • Derbyn adroddiadau safonol gan fyfyrwyr a'u goruchwylwyr a chyflwyno adroddiad i'r brifysgol ar gyfer pob myfyriwr, ar ôl yr ymweliad

Yn rhan olaf blwyddyn y lleoliad byddwch yn cyflwyno ffolder prosiect i'r Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac yn rhoi cyflwyniad am brofiad y lleoliad.

Hefyd, er mwyn dathlu eich blwyddyn mewn diwydiant:

  • Cynhelir noson wobrwyo i gydnabod eich cyflawniadau
  • Darperir cinio