Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol), PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Health leadership worksop

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi wedi cwblhau'r rhaglen Esiamplwyr Comisiwn Bevan, y rhaglen CLIMB neu raglen gyfatebol, neu ar fin cwblhau un ohonynt? 

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a rheoli wrth ddefnyddio ymagweddau arloesol er mwyn trawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal. 

Mae'r rhaglen Esiamplwyr Comisiwn Bevan yn rhaglen genedlaethol sy'n cefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i ddatblygu a gweithredu datrysiadau arloesol i wella gwasanaethau a chanlyniadau cleifion, tra bod y rhaglen CLIMB yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr sydd ar ddod mewn iechyd a gofal. Bydd y cwrs yn cynnig mewnbwn academaidd, fframio addysgegol a mecanweithiau asesu ar gyfer dysgu drwy brofiad. 

Mae'r PGCert mewn Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol) yn darparu ymagwedd unigryw ac arloesol i ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal, sy'n hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector heddiw ac yn y dyfodol drwy ymchwil ac arloesi. 

Os ydych chi'n cwblhau'r PGCert ac yn penderfynu parhau â'ch astudiaethau, gallwch ddefnyddio eich credydau presennol i wneud cynnydd i'r MSc mewn Rheoli Uwch (Arloesedd a Thrawsnewid Iechyd). 

Pam Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Byddwch yn sbardun allweddol i drawsnewid systemau iechyd a gofal er gwell drwy brosiect ymchwil ymarferol.
  • Bydd cyfle i ymarferwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o ddamcaniaeth sylfaenol, ymarfer ac ymchwil mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Byddwch yn mynd i'r afael â materion cyfoes mewn perthynas â thrawsnewid a gwella iechyd a gofal cymdeithasol drwy ymchwil
  • Mae addysgu arloesol yn cyfuno damcaniaeth ag ymarfer drwy ddadansoddi achosion, cyfleoedd i gyfranogwyr arsylwi, chwarae rôl a chael dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr yn eu pynciau.
  • Mynediad at academyddion o safon fyd-eang â phrofiad helaeth.

Eich Profiad Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol)

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd dysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil ac ymarfer lle caiff yr wybodaeth a'r syniadau diweddaraf eu defnyddio i'ch ysgogi a'ch ysbrydoli drwy gydol eich astudiaethau. Fel rhan o'r PGCert mewn Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol) byddwch yn chwarae rôl weithredol yn y broses ddysgu ac yn cyfrannu at ymchwil.

Bydd eich dysgu'n datblygu drwy gymhwyso cysyniadau a modelau i achosion byd go iawn, gan roi'r hyder i chi roi sgiliau newydd ar waith yn eich gweithle eich hun. Byddwch yn cael eich annog i feddwl yn greadigol, i ddadansoddi heriau o amrywiaeth o safbwyntiau a defnyddio tystiolaeth i gefnogi arloesedd yn eich sefydliad.

Byddwch hefyd yn tynnu ar rwydweithiau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae lled yr arbenigedd ymchwil, addysgu a phroffesiynol yn cyfoethogi eich datblygiad ym maes arloesedd a thrawsnewid iechyd a gofal.

Trwy gyfuno dysgu drwy brofiad ac astudiaethau academaidd uwch, mae'r rhaglen yn cryfhau eich gallu i arwain arloesedd cynaliadwy a newid mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymhleth sy'n datblygu. Byddwch yn dysgu sut i werthuso tystiolaeth, gweithio'n gydweithredol a chymhwyso dulliau newydd sy'n cefnogi gwelliant gwasanaethau.

Mae'r PGCert yn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwch archwilio damcaniaeth, ymchwil ac ymarfer wrth brofi syniadau newydd yn erbyn heriau'r byd  go iawn. Fel rhan o'ch astudiaethau, byddwch yn cwblhau prosiect sylweddol sy'n cysylltu eich gwybodaeth broffesiynol bersonol â fframweithiau academaidd, gan eich galluogi i greu datrysiadau ar sail tystiolaeth i wella gwasanaethau, systemau a chanlyniadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol)

Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i gryfhau eich gallu i arwain arloesedd a thrawsnewid yn y sector iechyd a gofal. P'un a ydych chi'n rheolwr sydd ar ddod neu'n arweinydd profiadol, mae'r rhaglen yn rhoi'r hyder a'r gallu i chi ddylanwadu ar newid ystyrlon yn eich sefydliad.

Fel myfyriwr graddedig y PGCert, byddwch wedi ennill sgiliau arweinyddiaeth, dadansoddi beirniadol ac arloesedd cymhwysol uwch, sy'n eich galluogi chi i weithredu fel catalydd ar gyfer trawsnewidiad ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os ydych chi eisiau parhau â'ch datblygiad proffesiynol ac academaidd, mae'r PGCert hefyd yn cynnig llwybr dilyniant clir. Gallwch gario eich credydau ymlaen a chyflwyno cais am y radd MSc mewn Rheoli Uwch (Arloesedd a Thrawsnewid Iechyd), gan eich galluogi i adeiladu ar yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni eisoes a gweithio tuag at gymhwyster gradd Meistr llawn.

Mae'r cyfuniad hwn o wybodaeth ymarferol, datblygu arweinyddiaeth a chynnydd academaidd yn sicrhau eich bod mewn sefyllfa dda i wella eich gyrfa a chael effaith gadarnhaol mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymhleth sy'n datblygu’n gyflym iawn.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.