Astudiaethau Plentyndod, MA / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
childhood studies

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MA mewn Astudiaethau Plentyndod yn cynnig archwiliad rhyngddisgyblaethol o blentyndod mewn cymdeithas gyfoes. Byddwch yn ennill yr wybodaeth a'r sgiliau beirniadol i gefnogi plant a theuluoedd ar draws lleoliadau amrywiol.

Drwy gyfuniad o ddamcaniaeth, polisi ac ymarfer, byddwch chi'n archwilio datblygiad ac iechyd plant, chwarae, hawliau plant, a'r cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol sy'n llunio plentyndod. Mae'r rhaglen hon yn meithrin ymarfer myfyriol a sgiliau ymchwil, gan eich paratoi ar gyfer rolau mewn gwasanaethau plant, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol a pholisi. Gydag opsiynau dysgu hyblyg a sylfaen ymchwil gref, mae'n cefnogi datblygiad proffesiynol a chynnydd academaidd.

Pam Astudiaethau Plentyndod yn Abertawe?

Yn Abertawe, byddwch yn ymuno â rhaglen sy'n seiliedig ar athroniaeth sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar hawliau, lle rydych chi'n cyfrannu'n weithredol at eich dysgu eich hun.  Byddwch yn archwilio plentyndod drwy safbwyntiau byd-eang a lleol, gan ennill dealltwriaeth ddofn o sut mae cyd-destunau diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd yn dylanwadu ar fywydau plant.

Mae eich profiad dysgu yn rhyngweithiol, yn gyfranogol ac wedi'i wreiddio mewn ymchwil. Byddwch yn cael eich annog i gwestiynu naratifau trechol, archwilio anghydraddoldebau strwythurol a myfyrio ar eich safbwyntiau eich hun wrth i chi astudio plentyndod. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â fframweithiau ysgolheictod a pholisi rhyngwladol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Nodau Datblygu Cynaliadwy, gan sicrhau bod yr hyn rydych chi'n ei astudio yn berthnasol ar draws ystod eang o gyd-destunau proffesiynol a diwylliannol.

Byddwch yn elwa o gwricwlwm rhyngddisgyblaethol sy'n tynnu ar gymdeithaseg, seicoleg, addysg, iechyd, a pholisi cymdeithasol i archwilio materion cymhleth fel hawliau plant, cyfiawnder cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd. Drwy ddysgu cydweithredol, trafodaethau sy'n seiliedig ar achosion ac asesiadau dilys sy'n adlewyrchu ymarfer y byd go iawn, byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddol a myfyriol uwch sy'n eich paratoi i eirioli dros degwch a chynaliadwyedd mewn sectorau sy'n gysylltiedig â phlentyndod.

Byddwch hefyd yn archwilio sut mae newid yn yr hinsawdd a diraddio amgylcheddol yn effeithio ar iechyd a lles plant, gan ganolbwyntio ar yr effaith anghymesur ar gymunedau difreintiedig. 

Eich profiad Astudiaethau Plentyndod

Ar ein rhaglen MA Astudiaethau Plentyndod, cewch eich croesawu i gymuned ddysgu fywiog, gynhwysol a chefnogol. O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn astudio mewn amgylchedd sy'n gwerthfawrogi cydweithredu, amrywiaeth a pharch ar y ddwy ochr. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cymryd rhan mewn prynhawn adeiladu tîm, gan roi cyfle i chi gysylltu'n anffurfiol â'ch cyfoedion a dechrau meithrin ymdeimlad o berthyn.

Mae addysgu yn cael ei gyflwyno dros ddau ddiwrnod yr wythnos, wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr sydd ag ymrwymiadau gofal neu broffesiynol a'ch helpu i gydbwyso eich bywyd academaidd a phersonol. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd ar gyfer cyfarfodydd unigol, yn enwedig os ydych chi'n astudio'n rhan-amser neu'n dychwelyd i addysg, gan sicrhau eich bod yn teimlo'n weledig, ac yn cael eich cefnogi a'ch integreiddio'n llawn i'r garfan. Mae asesiadau grŵp yn atgyfnerthu'r ymdeimlad hwn o gysylltiad ymhellach ac yn annog cydweithredu ar draws y rhaglen.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol a rhyngddisgyblaethol o blentyndod drwy dynnu ar gymdeithaseg, seicoleg, addysg, iechyd a pholisi cymdeithasol. Byddwch yn archwilio sut mae cyd-destunau diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd yn dylanwadu ar fywydau plant ac yn archwilio materion allweddol fel datblygiad plant, hawliau plant, cyfiawnder cymdeithasol ac effaith gwasanaethau a pholisi ar deuluoedd a chymunedau.

Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau dadansoddol, myfyriol ac ymchwil uwch, a fydd yn eich galluogi i werthuso'n feirniadol bolisi, ymarfer a dadleuon cyfredol ym maes astudiaethau plentyndod. Mae dulliau moesegol, cynhwysol a chyfranogol wedi'u hymgorffori drwyddi draw, sy'n eich annog i ganolbwyntio ar leisiau a phrofiadau plant ar draws cyd-destunau amrywiol yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol, gan eich helpu i symud ymlaen mewn sectorau fel addysg, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid, ymchwil a pholisi, neu ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau academaidd pellach.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Plentyndod

Mae ein cwrs MA Astudiaethau Plentyndod wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer gwaith ystyrlon sy'n creu effaith ar draws ystod eang o sectorau sy'n gysylltiedig â phlentyndod.   Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu Priodoleddau Graddedigion Abertawe: Cymhwysedd Proffesiynol, Meddwl Arloesol, Ymwybyddiaeth o Heriau Byd-eang, Cyfathrebu Effeithiol ac Arweinyddiaeth Gydweithredol, gan eich helpu i symud ymlaen yn hyderus i rolau ym maes addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, polisi, eiriolaeth ac ymchwil.

Mae eich cyflogadwyedd yn cael ei gefnogi drwy ddysgu yn y byd go iawn, sy'n canolbwyntio ar ymarfer. Byddwch yn cwblhau asesiadau sy'n seiliedig ar fywyd go iawn fel cyflwyniadau, astudiaethau achos a chynigion ymchwil sy'n adlewyrchu'r mathau o dasgau a gyflawnir gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau. Mae'r gweithgareddau hyn yn eich helpu i feithrin creadigrwydd, meddwl strategol a sgiliau datrys problemau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Mae llythrennedd digidol yn rhan greiddiol o'ch datblygiad. Byddwch yn defnyddio offer digidol, fel Canvas, Turnitin, ffeithluniau, flogiau ac AI cynhyrchiol priodol, i atgyfnerthu'ch sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, gan eich paratoi ar gyfer amgylchedd gwaith cynyddol ddigidol.

Mae cydweithio yn ganolog i'r rhaglen. Bydd gwaith grŵp ac adborth gan gymheiriaid yn eich helpu i fagu hyder mewn gwaith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu rhyngbersonol, tra bod gweithgareddau myfyriol yn eich annog i feddwl yn feirniadol am eich twf proffesiynol eich hun.

Byddwch hefyd yn elwa o gyfleoedd i glywed gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws sectorau sy'n gysylltiedig â phlentyndod, gan roi mewnwelediad i chi ar wahanol lwybrau gyrfa a'ch helpu i adeiladu eich dealltwriaeth o'r sgiliau sydd eu hangen wrth ymarfer. Mae cymorth cyflogadwyedd pwrpasol, gan gynnwys sesiynau sgiliau astudio ar lefel rhaglen gyda'r Tîm Sgiliau Cyflogadwyedd, yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyflwyno ceisiadau, mynd i gyfweliadau a dilyniant yn y dyfodol.

Mae graddedigion o'r MA Astudiaethau Plentyndod yn mynd ymlaen i yrfaoedd yn y meysydd canlynol:
• Addysg (addysgu, datblygu'r cwricwlwm,  arweinyddiaeth y blynyddoedd cynnar)
• Iechyd a gofal cymdeithasol (hybu iechyd plant, diogelu, chwarae therapiwtig)
• Polisi ac eiriolaeth (sefydliadau hawliau plant, cyrff anllywodraethol a'r llywodraeth)
Ymchwil a'r byd academaidd (astudio am PhD, rolau ymchwil, gwaith gwerthuso)
Entrepreneuriaeth (gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar blant, hyfforddiant, ymgynghoriaeth)

Gyda'i ffocws ar berthnasedd i'r byd go iawn, ymarfer cynhwysol ac arloesi digidol, mae'r rhaglen yn eich arfogi i ymateb yn hyderus i'r heriau a'r cyfleoedd esblygol sy'n dylanwadu ar blentyndod heddiw.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.