Y Gyfraith gyda Throseddeg, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students at the school of law

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLB yn y Gyfraith gyda Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn cyfuno astudio'r gyfraith ag archwiliad manwl o droseddu, cyfiawnder troseddol ac ymatebion cymdeithasol i droseddu. 

Wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd, mae'r rhaglen yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil flaenllaw. Mae'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddeall sut mae systemau cyfreithiol yn gweithredu mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach, gan archwilio achosion a chanlyniadau troseddu'n feirniadol. 

O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contract, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar ac yn cefnogi'r rhai sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). 

Ochr yn ochr â'r meysydd craidd hyn, byddwch yn astudio modiwlau troseddeg sy'n archwilio pynciau megis cymdeithaseg troseddu, plismona, cosb, cyfiawnder ieuenctid a'r system cyfiawnder troseddol. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o'r rhyngweithiadau rhwng troseddu a chymdeithas. 

Wrth i chi symud drwy'ch rhaglen, gallwch deilwra eich gradd drwy amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn y gyfraith ac mewn troseddeg. Mae opsiynau y Gyfraith yn cynnwys Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach y Byd. Gall opsiynau Troseddeg gynnwys Penydeg, Seicoleg Droseddol a Therfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a datblygu arbenigedd ar draws dwy ddisgyblaeth gyflenwol.

Pam Y Gyfraith gyda Throseddeg yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio ymagweddau at ddylunio'r cwricwlwm ac addysgu, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.  

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn rhoi i chi'r cyfleoedd gorau posib i lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol.  

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y Gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn amrywiaeth eang o feysydd ymarfer.  

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe: 

  • Yn un o'r 125 Adran Orau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2025)  
  • Ymhlith y 150 o brifysgolion gorau yn y byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Eich Profiad Y Gyfraith gyda Throseddeg

Mae ein rhaglen LLB yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych chi'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith. 

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyno ar lafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau amlddewis, sy'n un o nodweddion allweddol yr SQE, yn sicrhau eich bod wedi'ch paratoi i fodloni gofynion proffesiynol. 

Mae cyfleoedd i gael profiad o'r byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch roi cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, a chymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.  

Mae'r LLB wedi'i strwythuro i roi cyflwyniad trylwyr i chi i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan greu'r hyblygrwydd sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau a'ch dyheadau chi, sy'n gallu cynnwys nifer o sectorau gwahanol oherwydd amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael. 

Ym mhob un o'ch tair blynedd, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol ar sylfeini'r gyfraith gan sicrhau bod gennych ddealltwriaeth hanfodol o'r maes hwn. Caiff hyn oll ei ategu gan ddamcaniaeth troseddeg, elfen sy'n dwysáu wrth i chi symud drwy'ch gradd. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ddewis o amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol, gan eich galluogi i deilwra eich dysgu ar sail eich diddordebau a'ch uchelgeisiau. 

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau megis Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain Asia, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Os ydych chi'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd LLB yn y Gyfraith gyda Throseddeg sy'n cynnwys Blwyddyn Sylfaen? Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan roi i chi’r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Yn ystod eich blwyddyn sylfaen (lefel 3), byddwch yn astudio yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe, ar Gampws y Bae. Byddwch yn ymuno ag Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton ar gyfer blynyddoedd 2 i 4 (lefelau 4 i 6). 

Os hoffech gwblhau LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Gyfraith gyda Throseddeg

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio â chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Bydd gennych y cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.  

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth. 

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol, sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr. 

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Cyflwynir y rhain gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi i chi gipolwg gwerthfawr ar yrfaoedd ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn. 

Mae graddedigion y radd LLB (Anrh) yn y Gyfraith gyda Throseddeg yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol. Mae llawer yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol fel cyfreithwyr, bargyfreithwyr, cynorthwywyr cyfreithiol neu weithredwyr cyfreithiol, wedi'u cefnogi gan y sylfeini cryf mewn gwybodaeth gyfreithiol a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y radd. 

Y tu hwnt i rolau cyfreithiol traddodiadol, mae graddedigion hefyd yn gweithio mewn meysydd eraill yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr heddlu, y Gwasanaeth Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf. Mae cyrchfannau cyffredin eraill yn cynnwys awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Sifil, y sector ariannol, adnoddau dynol, elusennau a chyrff anllywodraethol, melinau trafod a sefydliadau ymchwil. 

Mae'r rhaglen hon yn cynnig addysg arbennig, o ansawdd uchel, sy'n rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau dadansoddi a'r hyder i gyflawni eich uchelgeisiau gyrfa yn y gyfraith ac mewn troseddeg. Mae'r cyfuniad o hyfforddiant cyfreithiol a dealltwriaeth o droseddeg yn rhoi i chi fantais gystadleuol, gan eich paratoi ar gyfer llwybrau proffesiynol sy'n gofyn am y gallu i feddwl yn feirniadol, ymwybyddiaeth foesegol a dealltwriaeth gref o sut mae'r gyfraith yn gweithredu mewn cymdeithas. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Gyfraith gyda Throseddeg, LLB (Anrh)

Y Gyfraith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn Dramor, LLB (Anrh)