Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
A group of students having a discussion

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar y croestoriad rhwng y gyfraith a throseddeg, wrth hefyd roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.

Wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, mae'r rhaglen wedi'i seilio ar ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil flaenllaw. Mae'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddeall sut mae systemau cyfreithiol yn gweithredu mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach, gan archwilio achosion a chanlyniadau troseddu'n feirniadol.

O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contract, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

Ochr yn ochr â'r meysydd craidd hyn, byddwch yn astudio modiwlau troseddeg sy'n archwilio pynciau megis cymdeithaseg troseddu, plismona, cosb, cyfiawnder ieuenctid a'r system cyfiawnder troseddol.

Yn pedwaredd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Wrth i chi symud drwy'ch rhaglen, gallwch deilwra eich gradd drwy amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn y gyfraith ac mewn troseddeg. Mae opsiynau y Gyfraith yn cynnwys Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach Ryngwladol. Gall opsiynau Troseddeg gynnwys Penydeg, Seicoleg Droseddol a Therfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar.

Pam y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn rhoi i chi'r cyfleoedd gorau posib i lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol ar hyn o bryd:

  • Un o’r 125 o Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
  • Un o 101-150 brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Eich Profiad o'r Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Mae ein rhaglen Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyno ar lafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau amlddewis, sy'n nodwedd allweddol o'r SQE, yn sicrhau ymhellach eich bod wedi'ch paratoi ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.

Yn ogystal â'ch Blwyddyn yn Ymarfer, mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch gynnig cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.   

Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg wedi'i strwythuro i roi cyflwyniad trylwyr i chi i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, wrth greu'r hyblygrwydd sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau a'ch dyheadau chi, a all gynnwys ystod o sectorau oherwydd amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan roi i chi’r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Bydd y Flwyddyn Sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe ar Gampws y Bae. Bydd Blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton.

Cyfleoedd Cyflogaeth y Radd Cyfraith ar Waith gyda Throseddeg gan gynnwys Blwydd

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio â chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Bydd gennych y cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol, sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Cyflwynir y rhain gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi i chi gipolwg gwerthfawr ar yrfaoedd ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.

Mae graddedigion y radd LLB (Anrh) Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol. Mae llawer yn mynd ymlaen i weithio yn y proffesiwn cyfreithiol fel cyfreithwyr, bargyfreithwyr, cynorthwywyr cyfreithiol, neu weithredwyr cyfreithiol, wedi'u cefnogi gan y sylfeini cryf mewn gwybodaeth gyfreithiol a ddatblygwyd yn ystod y radd.

Y tu hwnt i rolau cyfreithiol traddodiadol, mae graddedigion hefyd yn gweithio mewn meysydd eraill yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr heddlu, y Gwasanaeth Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf. Mae cyrchfannau cyffredin eraill yn cynnwys awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Sifil, y sector ariannol, adnoddau dynol, elusennau a chyrff anllywodraethol, melinau trafod a sefydliadau ymchwil.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig addysg arbennig, o ansawdd uchel, sy'n rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau dadansoddi a'r hyder i gyflawni eich uchelgeisiau gyrfa yn y gyfraith ac mewn troseddeg. Mae'r cyfuniad o hyfforddiant cyfreithiol a dealltwriaeth o droseddeg yn rhoi i chi fantais gystadleuol, gan eich paratoi ar gyfer llwybrau proffesiynol sy'n gofyn am y gallu i feddwl yn feirniadol, ymwybyddiaeth foesegol a dealltwriaeth gref o sut mae'r gyfraith yn gweithredu mewn cymdeithas.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)