Cyfraith (JD Cyflymedig), LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr y gyfraith yn mwynhau darlith

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLB yn y Gyfraith (Llwybr Carlam JD) yn radd ddwys yn y gyfraith, a addysgir dros ddwy flynedd, ac sydd wedi ei dylunio'n benodol ar gyfer graddedigion o brifysgolion yng Nghanada sydd heb radd yn y gyfraith.

Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd a chynhwysiant, ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i feithrin dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol, sefydliadau, a'u heffaith gymdeithasol, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, Cyfraith yr UE, a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.

Mae'r radd hon yn ymgorffori'r pynciau cyfreithiol craidd a asesir gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (yr SQE) ac mae wedi'i hachredu gan Fwrdd Safonau'r Bar. Yn amodol ar lefel cyrhaeddiad ofynnol mewn modiwlau craidd, mae'r radd wedi'i hachredu gan Bwyllgor Cenedlaethol Canada ar Achredu (NCA), ac mae’r modiwl Cyfraith Gyfansoddiadol Canada yn darparu paratoad rhagorol ar gyfer arholiad yr NCA (ceir rhagor o wybodaeth am ofynion achredu’r NCA ar wefan yr NCA).

Bydd y cwrs LLB hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i'r cam nesaf o hyfforddiant i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, a Chanada.

Pam Cyfraith (JD Cyflymedig) yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Un o’r 125 o’r Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
  • Mae ymhlith 101-150 prifysgol orau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Eich Profiad Cyfraith (JD Cyflymedig)

Mae ein rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol, gan gydnabod bod cyfran fawr o fyfyrwyr ar y rhaglen yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn y gyfraith, yng Nghanada, Lloegr neu Gymru.

Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith.

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau amlddewis (MCQ), sy'n nodwedd allweddol o arholiadau cyfwerthedd y Pwyllgor Cenedlaethol ar Achredu a'r SQE, yn sicrhau ymhellach eich bod yn barod ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes.

Mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch ddarparu cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.

Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau sydd i gyd yn orfodol, gan ymdrin â sylfeini'r gyfraith. Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, ac Y Gyfraith, Proffesiynoldeb a Moeseg. Yn yr ail flwyddyn mae'r modiwlau'n cynnwys Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith Trosedd, ynghyd â Chyfraith yr UE yn ei Chyd-destun a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.

Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ac asesu i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau a dewisiadau o ran dysgu. Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, addysg gyfreithiol glinigol, a chyfleoedd dysgu drwy brofiad. Defnyddir offer digidol fel arolygon byw a chwisiau hefyd i wella ymgysylltiad a chyfranogiad, gan sicrhau y gallwch gyfrannu'n weithredol at eich profiad dysgu eich hun. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys ystod eang o wahanol ddulliau, yn amrywio o arholiadau traddodiadol ar y safle i gyflwyniadau llafar a briffio cyfreithiol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfraith (JD Cyflymedig)

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth.

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr.

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn.


Bydd mwyafrif sylweddol o raddedigion y rhaglen hon yn mynd ymlaen i gymhwyso'n Gyfreithwyr yng Nghanada neu'n Gyfreithwyr neu Fargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.

Mae cyrchfannau graddedigion nodweddiadol eraill yn cynnwys:

  • Yr heddlu
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Awdurdodau lleol a'r Gwasanaeth Sifil
  • Y sector ariannol
  • Adnoddau Dynol

Elusennau a chyrff anllywodraethol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.