Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, LLB (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students at the school of law

Trosolwg o'r Cwrs

Mae LLB y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn dwyn ynghyd astudio'r gyfraith gydag archwiliad manwl o wleidyddiaeth ryngwladol, diplomyddiaeth a llywodraethiant byd-eang. 

Wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, mae'r rhaglen wedi'i seilio ar ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil flaenllaw. Mae'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddeall sut mae systemau cyfreithiol yn gweithredu mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach, wrth archwilio'n feirniadol rôl y gyfraith wrth lunio cysylltiadau rhyngwladol a llywodraethiant trawswladol. 

O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). 

Ochr yn ochr â'r meysydd craidd hyn, byddwch yn astudio modiwlau cysylltiadau rhyngwladol sy'n archwilio pynciau fel Cysylltiadau Rhyngwladol mewn Byd sy'n Newid, a Chyfiawnder Byd-eang a Hawliau Dynol yn Oes Globaleiddio. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae'r gyfraith yn rhyngweithio â gwleidyddiaeth ryngwladol a gwneud penderfyniadau byd-eang. 

Wrth i chi symud ymlaen, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol yn y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Mae opsiynau yn y gyfraith yn cynnwys Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu, a Masnach Ryngwladol, a gallai opsiynau cysylltiadau rhyngwladol gynnwys Diogelwch Rhyngwladol, Rhyfeloedd Cudd De'r Byd neu America a'r Bom. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a datblygu arbenigedd ar draws dwy ddisgyblaeth gyflenwol. 

Pam y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o gymuned academaidd gefnogol lle mae eich llais yn bwysig. Mae tîm y rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr i lunio dulliau addysgu a dylunio'r cwricwlwm, gan sicrhau bod eich dysgu yn parhau i fod yn arloesol ac yn ymatebol i'ch anghenion.  

Byddwch yn cael lefel uchel o gymorth personol drwy gydol eich taith er mwyn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i chi lwyddo. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid personol ymroddedig, rhaglen sefydlu wedi'i chynllunio'n ofalus, gweithdai datblygu sgiliau, cyngor a chymorth cyflogadwyedd parhaus, ac ystod o weithgareddau allgyrsiol.  

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y gyfraith. Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd.  

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe yn y safleoedd canlynol: 

  • Un o’r 125 o’r Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)  
  • Un o 101-150 brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025) 

Eich Profiad o'r Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol

Mae ein rhaglen LLB yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n ofalus i adlewyrchu tirwedd ddatblygol addysg gyfreithiol, gan gynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), wrth gynnal gwerth gradd draddodiadol yn y gyfraith. 

Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y rhaglen i ddatblygu ystod eang o sgiliau, megis ysgrifennu cyfreithiol, cyflwyniad llafar a datrys problemau. Mae cynnwys asesiadau cwestiynau aml-ddewis, sy'n nodwedd allweddol o'r SQE, yn sicrhau eich bod wedi'ch paratoi ar gyfer gofynion proffesiynol cyfoes. 

Mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn wedi'u hymgorffori drwy gydol y radd, gan gynnwys cymryd rhan yng Nghlinig y Gyfraith, lle gallwch ddarparu cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth, ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.  

Mae'r LLB wedi’i strwythuro i roi cyflwyniad trylwyr i chi i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, wrth greu'r hyblygrwydd sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau chi, a all gynnwys ystod o sectorau oherwydd amrywiaeth y modiwlau sydd ar gael. 

Ar draws pob un o'ch tair blynedd, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol ar sylfeini'r gyfraith, gan roi sylfaen hanfodol i chi yn y maes hwn. Mae hyn yn cael ei ategu drwyddi draw gan ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, sy’n dwysáu wrth i chi symud ymlaen drwy eich gradd. Mae eich blwyddyn olaf yn caniatáu ichi ddewis o amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol, gan eich galluogi i lunio eich dysgu eich hun o amgylch eich diddordebau a'ch uchelgeisiau chi. 

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau megis Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain Asia, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Os ydych chi'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen? Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Bydd y Flwyddyn Sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe ar Gampws y Bae. Bydd blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton. 

 Os hoffech gwblhau LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.  

Cyfleoedd Cyflogaeth y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gyda chyflogadwyedd wrth ei gwraidd. Byddwch yn cael cyfle i feithrin sgiliau ymarferol mewn ymchwil gyfreithiol, eiriolaeth a negodi, yn ogystal â chyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar drwy gymryd rhan mewn seminarau a dysgu drwy brofiad.  

Mae gan Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe nifer o gysylltiadau yn y proffesiwn cyfreithiol. Drwy'r rhain, mae rhaglenni profiad gwaith ar gael ar gyfer lleoliadau haf mewn cwmnïau cyfreithwyr, siambrau bargyfreithwyr a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym hefyd yn rhannu cyfleoedd cyflogadwyedd drwy ein platfformau mewnol ac ar ein tudalen LinkedIn i raddedigion, i'ch cefnogi i sicrhau cyflogaeth. 

Ym mhob semester, rydym yn cynnal 'diwrnod asesu', i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau drafftio CV, cyfweld a datrys problemau. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad 'gyrfaoedd ychwanegol' bob blwyddyn i'ch galluogi i archwilio rhagolygon gyrfa eraill y tu allan i'r llwybrau traddodiadol sef Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr. 

Cynhelir darlithoedd gwadd a gweithdai allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu cyflwyno gan Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr, a sefydliadau fel Comisiwn y Gyfraith, gan roi mewnwelediadau gyrfa amhrisiadwy i chi, ac yn eich cysylltu ag aelodau allweddol o'r proffesiwn. 

Mae graddedigion y rhaglen LLB Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn symud ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol. Mae llawer yn mynd ymlaen i weithio yn y proffesiwn cyfreithiol fel cyfreithwyr, bargyfreithwyr, cynorthwywyr cyfreithiol, neu weithredwyr cyfreithiol, wedi'u cefnogi â'r sylfeini cryf mewn gwybodaeth gyfreithiol a ddatblygwyd yn ystod y radd. 

Y tu hwnt i rolau cyfreithiol traddodiadol, mae graddedigion hefyd yn dilyn gyrfaoedd mewn llywodraeth a gwleidyddiaeth, sefydliadau dyngarol, busnes, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus. 

Mae'r rhaglen hon yn darparu addysg unigryw ac o safon sy'n eich galluogi i feithrin yr wybodaeth, y sgiliau dadansoddol a'r hyder i gyflawni eich uchelgeisiau gyrfa yn y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Mae'r cyfuniad o hyfforddiant cyfreithiol a mewnwelediad i gysylltiadau rhyngwladol yn cynnig mantais gystadleuol, gan eich paratoi ar gyfer llwybrau proffesiynol sy'n gofyn am sgiliau meddwl yn feirniadol, ymwybyddiaeth foesegol, a dealltwriaeth gref o sut mae'r gyfraith yn gweithredu mewn cymdeithas. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, LLB (Anrh)

Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)

Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor, LLB (Anrh)