Trosolwg o'r Cwrs
Mae gradd LLB y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio'n ofalus i fod yn rhaglen ddeallusol drylwyr ac arloesol sy'n eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymdrin yn feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith ar gymdeithas, gan ddatblygu sgiliau meddwl yn ddadansoddol, rhesymu moesegol, a safbwynt byd-eang.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cynnig sylfaen gref i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch deilwra'ch gradd drwy ystod eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd fel Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach Ryngwladol. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth ddatblygu arbenigedd.