Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi eisiau astudio'r gyfraith, ac eisoes yn meddu ar radd mewn disgyblaeth wahanol o'r tu allan i'r DU, mae'r radd LLB (Statws Uwch) hon ar eich cyfer chi. Mae'r radd ddwys a charlam hon yn y gyfraith ar lefel israddedig dros ddwy flynedd yn caniatáu i chi, os ydych wedi graddio o ddisgyblaeth arall, drosi i'r gyfraith yn gyflymach na rhaglen tair blynedd draddodiadol.
Wedi'i seilio ar ymrwymiad i ragoriaeth academaidd, ac wedi'i llywio gan ymchwil, mae'r rhaglen yn cyfuno theori ac ymarfer, gan eich galluogi i feithrin dealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithio o fewn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach. Bydd gofyn i chi ymgysylltu'n feirniadol ag egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith ar gymdeithas, gan ddatblygu meddwl dadansoddol, rhesymu moesegol, a phersbectif byd-eang.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contract, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni'r cam academaidd o hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac maent yn darparu sylfaen gadarn i'r rhai sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Wrth i'ch astudiaethau ddatblygu, gallwch deilwra'ch gradd trwy ystod eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd fel Hawliau Dynol, Cyfraith Cwmnïau, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach y Byd. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau wrth ddatblygu gwybodaeth arbenigol.