Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi am astudio'r Gyfraith ac mae gennych eisoes radd mewn disgyblaeth wahanol o'r tu allan i'r DU, yna mae'r LLB Statws Uwch drwy ddwy flynedd i chi.
Byddwch yn dysgu sut mae'r systemau cyfiawnder cyfreithiol a throseddol yn gweithio yng Nghymru a Lloegr ac yn cael sylfaen gynhwysfawr yn y saith maes sy'n rhan o radd cymhwyso yn y gyfraith; Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Camweddau a Chyfraith Gyhoeddus.
Ochr yn ochr â'r modiwlau gorfodol, gallwch astudio modiwlau dewisol o amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys Cyfraith Teulu, Cyfraith Cyflogaeth, Seiberdroseddu, Cyfraith Cystadlu, a Chyfraith Feddygol.
Trwy gydol eich gradd Statws Uwch byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith wedi'i chydnabod gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fel Graddau Cymhwysol yn y Gyfraith ar gyfer y rhai sy'n dechrau astudio yn 2021. Mae ein rhaglenni hefyd yn cynnwys y pynciau craidd y mae ar Fwrdd Safonau'r Bar eu hangen er mwyn bodloni cyfnod academaidd y hyfforddiant proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n dymuno bod yn fargyfreithiwr. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol.