Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd Nyrsio Iechyd Meddwl ran-amser ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd presennol, a bydd yn rhoi i chi’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Mae nyrsys iechyd meddwl yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl o bob oed a chefndir ar rai o adegau anoddaf a mwyaf heriol eu bywydau.
Bydd ein cwrs gradd pedair blynedd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i’ch galluogi i roi gofal nyrsio tosturiol o ansawdd uchel i bobl sy'n delio â salwch meddwl, yn ogystal â chymorth i'w teuluoedd.
Byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu craff i'ch paratoi chi i weithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.
Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned.