Mae nyrsys iechyd meddwl yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl o bob oed a chefndir ar rai o adegau anoddaf eu bywydau.
Bydd ein cwrs gradd tair blynedd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi i chi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i’ch galluogi i roi gofal nyrsio tosturiol o safon er mwyn gwella iechyd meddwl a lles. Yn ystod y cwrs, byddwch yn gwella gofal a thriniaeth pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu craff i'ch paratoi chi i weithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol a therapyddion galwedigaethol.
Bydd hanner eich addysgu yn y Brifysgol ar Gampws Parc Singleton a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â byrddau iechyd Cymru a llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ar draws de-orllewin Cymru.
Gallai'r rhain gynnwys canolfannau gofal iechyd cymunedol, ysbytai a meysydd arbenigol mewn nyrsio fforensig, plant a phobl ifanc, cyffuriau ac alcohol a phobl hŷn.
Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei arwain gan werthoedd, mae'r rhaglen yn pwysleisio tosturi, cynhwysiant, a phartneriaeth â phobl, teuluoedd, a chymunedau.
Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol, atebol sy'n gallu ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas, ac sy'n gallu cyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.
Pam Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe?
Yn ystod eich amser dysgu yn y Brifysgol, byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton, mewn parcdir hardd sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl penrhyn Gŵyr.
Mae gennym enw rhagorol am nyrsio, ac rydym yn y safleoedd canlynol ar hyn o bryd:
3ydd yn y DU am Ragolygon Gyrfa (aseswyd o dan 'Nyrsio Cyffredinol', Guardian University Guide 2026)
4ydd yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
6ed yn y DU o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
7fed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)
Mae ein staff academaidd yn nyrsys, yn feddygon ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig y mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, sy’n rhoi i chi gyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.
Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd Cymru, gan gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi mewn lleoliadau trefol a gwledig. Yn ogystal â hyn, mae'r ysbyty agosaf yn ffinio â'n Campws Singleton.
Os ydych yn fyfyriwr o’r DU a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a gallech gael cyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.
Ewch i'n tudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn gwneud cais.
Eich profiad ym maes Nyrsio Iechyd Meddwl
Mae ein rhaglen nyrsio wedi'i llunio’n bwrpasol i ddatblygu nyrsys diogel, effeithiol a thosturiol sy'n barod am realiti amgylcheddau gofal iechyd modern, amlddisgyblaethol.
Bydd gennych fynediad at ein cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys ystafelloedd clinigol realistig i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith yn uniongyrchol mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu, mor agos â phosibl, yr amodau go iawn byddwch chi'n cael profiad ohonynt ar leoliad gwaith mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.
Bydd myfyrwyr nyrsio hefyd yn elwa o gael mynediad at gyfleuster SUSIM, y gosodiad mwyaf o dechnoleg wal ymdrochi yn y byd. Mae'r cyfleuster unigryw hwn yn rhoi'r gallu i chi ymarfer sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn ystod o senarios byd go iawn sydd wedi'u hefelychu.
Mae'r rhaglen yn cynnwys 4,725 awr o ddysgu, wedi'u rhannu’n gyfartal rhwng dysgu damcaniaethol ac ymarfer. Mae agweddau allweddol ar nyrsio, gan gynnwys ymchwil, arweinyddiaeth, llythrennedd digidol, y gyfraith, diogelu, cydsyniad, ffarmacoleg, gweinyddu ac optimeiddio meddyginiaethau, ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'u hintegreiddio ym mhob modiwl.
Dyma gwrs amser llawn sy'n cynnwys naw modiwl dilyniannol 40 credyd, gyda thri ohonynt yn cael eu cwblhau ym mhob blwyddyn astudio. Mae dulliau dysgu ac addysgu wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu annibynnol, ac i wneud defnydd o'ch sgiliau astudio presennol, eich gwybodaeth flaenorol a'ch profiadau. Mae'r holl fodiwlau yn cynnwys sesiynau a addysgir, ymarfer, astudio'n annibynnol ac e-ddysgu.
Gyrfaoedd Nyrsio Iechyd Meddwl
Mae'r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gref ar gyfer gyrfa gydol oes mewn nyrsio, boed mewn gofal cleifion uniongyrchol, rolau clinigol uwch, arweinyddiaeth, addysg neu ymchwil. Mae graddedigion yn hynod gyflogadwy, gyda chyfleoedd i weithio'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.
Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs (Oedolion) Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a’r AEE.
Bydd myfyrwyr o’r DU hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG i dalu cost hyfforddiant. Bydd angen i’r rhai sy'n derbyn y fwrsariaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus/preifat/annibynnol am hyd at ddwy flynedd yn dilyn cofrestru gyda'r NMC.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mewn cytundeb â byrddau iechyd GIG Cymru a phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu ac yn rheoli proses baru o dan y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr. Ar ddiwedd eich rhaglen, byddwch yn gallu gwneud cais am swyddi gwag ledled Cymru drwy'r cynllun.
Gallwch ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £28,407, a fydd yn codi i £57,349 i nyrs staff brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £50,056.
Modiwlau
Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.
Modiwlau
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Heb ddod o hyd i un
Modiwlau Opsiynol
Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
SYLWER :Students must select one of the following modules.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.
Gofynion Mynediad
Cynnig Lefel – A Arferol
Isafswm BBB-BCC, cyrsiau’n ymwneud gyda iechyd neu wyddoniaeth yn ddymunol. Rydym yn derbyn Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch.
Cynnig Mynediad i AU
Bydd y cynnig yn amrywio rhwng 120 a 104 o bwyntiau UCAS
Cynnig BTEC Arferol
21 Distinctions, 18 Merits, 6 Passes
Typical Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Offer
B a BB yn lefel A neu DDM - DMM yn BTEC
Bagloriaeth Rhyngwladol
32
Tystysgrif Gadael Iwerddon
360
Sylwer, mae ein hamrediad graddau'n cynnwys cynigion safonol a chyd-destunol. Os byddwch chi'n bodloni un (neu fwy) o'n meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynigion cyd-destunol, rhoddir cynnig is i chi. Bydd hyn o fewn yr amrediad graddau a nodir o hyd. Gweler ein tudalen derbyn myfyrwyr ar gyfer cynigion cyd-destunol am ragor o wybodaeth.
O leiaf bum cymhwyster TGAU â graddau A-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddor Ffisegol neu Wyddoniaeth Dyfarniad Dwbl.
O dan rai amgylchiadau penodol, derbynnir Sgiliau Allweddol Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn lle TGAU Mathemateg a Sgiliau Allweddol Lefel 3 mewn Cyfathrebu yn lle TGAU Cymraeg/Saesneg Iaith.
Bydd angen i chi ddangos y canlynol hefyd:
Proffil addysgol cryf yn ystod y tair i bum mlynedd diwethaf
Dealltwriaeth fanwl o Nyrsio Iechyd Meddwl ac ymrwymiad iddo
Mae profiad ym maes gofal yn ddefnyddiol ond nid yw'n hanfodol
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gwaith tîm a thasgau unigol yn ystod y cyfweliadau
Os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen sgôr IELTS o 7.0 arnoch
Os cynigir lle i chi, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.
Rhagori ar y gofynion hyn?
Os yw'r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond eich bod wedi rhagori ar y cymwysterau mynediad gofynnol, beth am ystyried ein Nyrsio Iechyd Meddwl, MSc
Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar
ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol,
wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf
o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi'r cyfle i
chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned
ehangach y brifysgol.
Gallwch ddisgwyl cymysgedd o
ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol -
gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio
lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i
annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r
pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad
dysgu. Gall y rhain gynnwys:
Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac
adolygu hyblyg.
Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn
enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y
brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a
fforymau trafod.
Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich
amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Efallai bydd y cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau sy’n cael eu haddysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler
yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.
N.B. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio gyda Fisa Llwybr
Myfyrwyr, sylwch y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd
ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol
Abertawe yn bresennol) yn digwydd ar y campws.Yn unol â phrotocol Fisâu
a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a
bydd data ar gael ar gais.
Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd
ym mhob blwyddyn*.
Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol
Abertawe. Rydym yn cynnig:
Mynediad at fwrsariaethau ar gyfer astudio trwy
gyfrwng y Gymraeg.
Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych
chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
Cefnogaeth un i un yn y Gymraeg i wella eich sgiliau academaidd.
Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n
dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr, sef Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg a
CBAC.
Caiff ein graddau eu haddysgu gan nyrsys, meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, sydd â gwybodaeth helaeth i'w rhannu â'n myfyrwyr.
Gallwch ddarllen mwy am ein harbenigedd academaidd ar ein tudalennau staff.
Gall ffïoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn y DU gynyddu ym mlynyddoedd dilynol astudio yn unol â'r uchafswm ffi reoledig a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Os ydych yn fyfyriwr o’r DU a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a gallech gael cyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Teithio i'r campws ac oddi yno
Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
Ysgrifennu academaidd
Mathemateg ac ystadegau
Meddwl critigol
Rheoli amser
Sgiliau digidol
Sgiliau cyflwyno
Cymryd nodiadau
Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym am gefnogi datblygiad eich cymhwysedd wrth ddefnyddio cyfryngau digidol, i wella eich dysgu, defnyddio technolegau mewn ymarfer clinigol, ac amddiffyn eich hun a'r proffesiwn pan fyddwch ar-lein.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer,
mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka,
De Corea, Fiji, Bali, UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch
rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n
tudalennau gwe Haf Dramor.
Bydd astudio dramor yn rhoi cyfle i chi ddysgu am ddiwylliant newydd, gwneud ffrindiau newydd a chael eich trwytho mewn gwlad nad ydych wedi bod iddi o'r blaen o bosibl.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.
Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r
disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg eich
cais. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n
angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs naill
ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Mae'r wybodaeth isod ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2016 neu
wedi hynny.
Fel arfer, ni fydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau sylweddol iawn i gyrsiau
(er enghraifft, newid teitl y cwrs, ailstrwythuro sylweddol, newid sylweddol
yng nghynnwys y cwrs, neu gyflwyno rhwystr i ddilyniant) a fyddai'n
effeithio ar fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau eu cwrs. Mewn amgylchiadau
eithriadol, gall fod angen i'r Brifysgol wneud y fath newid ar ôl i ddeiliad
cynnig dderbyn lle. Ni fydd hyn yn digwydd llai na 5 mis cyn cofrestru.
Caiff deiliad y cynnig ei hysbysu am y newid a chyfle i dynnu ei gais yn ôl
a gwneud cais i sefydliad arall.
Gellid gwneud newidiadau eraill yng nghynnwys y cwrs, y lleoliad astudio, y
dulliau cyflwyno a'r ddarpariaeth addysgu oherwydd datblygiadau yn y pwnc
dan sylw, gwelliannau i arfer addysgu neu asesu, gofynion prosesau achredu
allanol, newidiadau staffio, cyfyngiadau o ran adnoddau neu newidiadau o ran
argaeledd cyfleusterau. Bydd newidiadau o'r fath yn ystyried disgwyliadau
rhesymol darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.
Crynodeb o'r Newidiadau
Dyddiad y Newid
10/02/2026
Course Title(s)
Nyrsio (Iechyd Meddwl),
BSc (Anrh)
3 Blynedd
Llawn Amser
(B704)
Newidiad o Bwys
Mae mân newidiadau i strwythur y rhaglen hon sy'n effeithio ar a yw modiwlau'n orfodol neu'n opsiynol.
Rheswm dros y Newid
Mae'r diweddariadau hyn wedi'u cynllunio i wneud eich profiad dysgu'n fwy syml, perthnasol a haws i'w reoli.