Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
HSC students

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BSc (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig hyblygrwydd, themâu eang a ffocws cryf ar gyflogadwyedd, i gynnig man cychwyn gwych ar gyfer ystod o yrfaoedd gwobrwyol. 

Byddwch yn astudio iechyd a gofal cymdeithasol mewn ystod eang o gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys themâu megis polisi cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, epidemioleg, seicoleg, bioleg a ffisioleg ddynol, y gyfraith a moeseg o ran iechyd, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth glir o’r strwythurau a’r polisïau sy'n sail i iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu, ymchwil a dadansoddi rhagorol sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Rydym hefyd yn cynnig opsiynau Blwyddyn mewn Ymarfer Cymhwysol a Blwyddyn Sylfaen i ddiwallu eich anghenion a’ch rhagolygon gyrfa. Sylwer bod y Flwyddyn Sylfaen ar gael i fyfyrwyr o'r DU yn unig.

Pam Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Abertawe?

Yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, darparwr addysg gofal iechyd mwyaf Cymru, cewch eich trochi mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig gyda llawer o gyfleoedd i greu cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig.

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Abertawe:

  • Yn y 5ed safle yn gyffredinol yn y DU (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 6ed safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Ymhlith yr 20 safle uchaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)

Eich Profiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cafodd ein gradd BSc (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei llunio er mwyn adlewyrchu gweledigaeth dyfodol sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (Llywodraeth Cymru 2024), gyda ffocws cryf ar y canlynol:

  • Gwasanaeth cydweithredol, cyfranogol a arweinir gan ddefnyddwyr
  • Gwaith amlddisgyblaethol a rhannu arfer gorau
  • Dileu rhwystrau i gefnogi iechyd a lles mewn ymagwedd gyfannol
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth a hybu cydraddoldeb
  • Defnyddio tystiolaeth i gefnogi ymarfer
  • Tryloywder wrth wneud penderfyniadau

Rydym yn ymrwymedig i greu gweithlu graddedig sy'n fedrus ac yn hyblyg, sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, a bydd ein gwaith addysgu'n rhoi i chi’r sgiliau, y profiad a'r hyder i fynd i'r afael â heriau cymhleth y sector. 

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus ac yn cael yr opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith ochr yn ochr â’ch gwaith academaidd.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc. Sylwer bod y Flwyddyn Sylfaen ar gael i fyfyrwyr o'r DU yn unig.

Cyfleoedd Cyflogaeth Iechyd a Gofal

Bydd graddedigion y BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi meithrin y sgiliau, y profiad a'r hyder i ddechrau ar yrfa mewn ystod eang o rolau, gan gynnwys: 

  • Rolau cymunedol e.e. gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cefnogi rhianta neu swyddog cyswllt teulu
  • Gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed megis pobl ddigartref neu'r rhai hynny sy'n gaeth i sylweddau
  • Rolau mewn sefydliadau yn y trydydd sector e.e. swyddog codi arian neu brosiectau
  • Y Gwasanaeth Sifil neu Lywodraeth Genedlaethol
  • Gwasanaeth Cyhoeddus gan gynnwys cyfiawnder troseddol, tai a gwasanaethau cymdeithasol
  • Y sector preifat e.e. Gwasanaethau Cyllid
  • Iechyd Cyhoeddus
  • Ymchwil Academaidd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig ar gyfer rolau arbenigol gan gynnwys Nyrsio, Gwaith, Cydymaith Meddygol, Astudiaethau Plentyndod neu.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Ymarfer Cymhwysol, BSc (Anrh)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)