Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BSc ran-amser (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol) wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer unigolion sy'n cael eu cyflogi yn y GIG. Mae'r rhaglen yn darparu'r hyfforddiant arbenigol sy'n ofynnol i ddatblygu gyrfa foddhaus a hynod fedrus fel peiriannydd meddygol. Fel ymarferydd, bydd gennych rôl ymarferol gyda dyfeisiau meddygol, gan weithio gydag amrywiaeth eang o gyfarpar a ddefnyddir yn gyffredin mewn ysbytai. Gallwch hefyd ddewis arbenigo mewn meysydd penodol, megis cyfarpar arennol neu radiotherapi.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu am gylch oes llawn cyfarpar meddygol, o brofi am dderbynioldeb a rhoi dyfeisiau newydd ar waith i gynghori clinigwyr ar ddefnydd cywir, ymdrin â materion ynghylch diogelwch cleifion a rheoli prosesau i gael gwared â hen gyfarpar. Byddwch yn cyfuno astudiaethau academaidd manwl â phrofiad clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amgylcheddau gofal iechyd arbenigol. Byddwch yn astudio ar lefelau FHEQ 5 a 6 dros dair blynedd, gan gyfuno dysgu academaidd â phrofiad helaeth sy'n seiliedig ar ymarfer yn eich rôl bresennol yn y GIG.
Mae peirianneg feddygol yn faes amrywiol sy'n datblygu'n barhaus. Byddwch yn rhoi gwybodaeth o beirianneg electronig a mecanyddol ar waith i asesu, cynnal a chadw, addasu ac, mewn rhai achosion, helpu i ddylunio dyfeisiau meddygol a ddefnyddir mewn triniaeth a diagnosis cleifion.
Fel dysgwr cyflogedig, byddwch yn elwa o ddysgu drwy ymarfer yn eich bwrdd iechyd eich hun, â chymorth un diwrnod a hanner o absenoldeb astudio yr wythnos. Mae un diwrnod llawn yn cael ei ddynodi i addysgu dan arweiniad y brifysgol, a hanner diwrnod ychwanegol ar gyfer gwaith aseiniadau a datblygu portffolio. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn rhoi cymorth ariannol i fyrddau iechyd drwy daliadau ôl-lenwi ar fand canol pwynt 4 i hwyluso eich cyfranogiad yn y rhaglen.