Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLB yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i dylunio i gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfaeni gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contractau, Cyfraith Camweddau, y Gyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, yn ogystal â Phroffesiynoldeb y Gyfraith a Moeseg. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac maent yn darparu sylfaen gadarn i'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Mae'r rhaglen yn eich galluogi i ddeall sut mae'r gyfraith yn gweithio mewn perthynas â'r gymdeithas, gwleidyddiaeth a'r economi. Bydd angen i chi feddwl yn feirniadol am egwyddorion cyfreithiol a'u heffaith, a fydd yn eich cefnogi wrth ddatblygu sgiliau cyfreithiol hanfodol, a safbwynt byd-eang sy'n eich annog i feddwl y tu hwnt i'ch amgylchedd uniongyrchol.
Wrth i'ch astudiaethau barhau, gallwch deilwra eich gradd drwy amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd megis Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdrosedd, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Phlant a Masnach y Byd. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn eich galluogi i ymgymryd â'ch diddordebau, gan ddatblygu arbenigedd arbenigol.