Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r actores a'r ddarlledwraig o Gymru, Gwenyth Petty.

Cafodd y dyfarniad ei gyflwyno i Ms Petty heddiw (19 Rhagfyr 2018) yn seremoni raddio'r Brifysgol ar gyfer Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Mae gwreiddiau Gwenyth yng Nghrug y Bar yn ardal wledig Sir Gaerfyrddin ac yn nhref fwy diwydiannol Maesteg yn Sir Forgannwg.

Roedd hi'n blentyn swil, ond roedd wrth ei bodd yn gwrando ar y radio diwifr a oedd yn chwarae yn y tŷ drwy'r amser ac a oedd yn cynnig adloniant diddiwedd gan gynnwys Children’s Hour a Saturday Night Theatre.

Yn ystod y rhyfel, gwahoddwyd enwogion y cyfnod i ddiddanu'r glowyr yn Neuadd y Dref Maesteg a'r Theatr Fach lle roedd mam Gwenyth yn helpu y tu ôl i'r llenni. Gwnaeth pob un ohonynt aros dros nos yng nghartref teulu Petty, a gadawodd eu presenoldeb argraff barhaol ar y Gwenyth ifanc.

Mae Gwenyth yn canmol nifer o'i hathrawon a welodd lawer mwy ynddi nag a welodd hi ei hun. Dewisodd y radio oherwydd y gallai ddweud storïau a pharhau'n anhysbys ar yr un pryd, ond daeth o hyd i'r dewrder i fynd i glyweliadau, ac ymddangosodd yn Heidi yn un o'i rolau cynnar. 

Aeth i Ysgol Rose Bruford ac yna RADA sef Coleg Brenhinol y Celfyddydau Dramatig. Ond dechreuodd ei gyrfa go iawn yn Abertawe yn stiwdios y BBC yn yr Uplands ac ar Heol Alexandra lle byddai'n perfformio'n fyw i'r genedl ar y radio. Un diwrnod gofynnwyd iddi ddarllen i fardd yn yr ystafell gerllaw: Dylan Thomas.

Hi yw'r unig aelod sydd yn dal yn fyw o gast gwreiddiol Dan y Wenallt, a ddarlledwyd yn fyw ar wasanaeth Third Programme y BBC, ochr yn ochr â Richard Burton, ac yna aeth ymlaen i fod yn rhan o gast Dan y Wenallt yn Theatr y Glôb yn Llundain. Roedd hi'n aelod o Gwmni Sefydlog y BBC lle bu'n ymdrwytho yn yr holl glasuron o Ibsen i Shakespeare a'r clasuron yng Nghymru megis Saunders Lewis.

Mae hi wedi ymddangos mewn sawl ffilm a rhaglen deledu. Un yn benodol yw'r ffilm David a wnaed ym 1951 gan Paul Dickson ac sy'n seiliedig ar dref lofaol Rhydaman. Hyd heddiw, caiff David ei hystyried y ffilm orau a wnaed yng Nghymru erioed. Mae hi hefyd wedi ymddangos yn Theory of Flight gyda Kenneth Branagh, The Dark gyda Sean Bean a Very Annie Mary gyda Kenneth Griffith ymysg ffilmiau eraill.

Ar y teledu mae wedi ymddangos ar Teulu ar S4C a Mortimer's Law ar gyfer BBC One.

Y peth y mae hi fwyaf balch ohono yw ei gwisg wen yng Ngorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Wrth dderbyn ei gradd er anrhydedd o Brifysgol Abertawe, dywedodd Gwenyth Petty: "Cefais fy synnu'n llwyr wrth gael gwybod am y dyfarniad hwn; nid wyf yn gallu credu'r peth o hyd, ond rwy'n hynod ddiolchgar ac wrth fy modd...Diolch o galon Prifysgol Abertawe!'