Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r newyddiadurwr a'r darlledwr teledu a radio, a'r ymgyrchydd dros ofal iechyd, Beti George.

Cyflwynwyd y dyfarniad er anrhydedd i Ms George heddiw (20 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. 

Wedi'i geni a'i magu yng Nghoed-y-Bryn ger Llandysul, dechreuodd Beti George ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda'r BBC yn Abertawe ar ddechrau'r 1970au cyn cyflwyno rhaglenni newyddion, materion cyfoes a cherddoriaeth ar S4C yn y 1980au.

Ers 1987 mae hi wedi cyflwyno sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru, Beti a'i Phobol. Mae hi hefyd wedi cyflwyno noson olaf cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ers sawl blwyddyn.

Mae hi'n ymgyrchu dros gynyddu ymwybyddiaeth o glefyd Alzheimer a gofal i bobl sy'n dioddef o ddementia ac yn rhoi cefnogaeth bwysig i'r rhai sy'n byw gyda chlefyd Alzheimer a'u teuluoedd.

Yn 2017, derbyniodd rhaglen ddogfen a oedd yn portreadu ei bywyd gyda'i phartner, y diweddar ddarlledwr David Parry-Jones, David and Beti: Lost for Words, wobr aur yng Ngŵyl Ffilmiau a Theledu Efrog Newydd. Mae Beti ar restr Wales Online o 100 o Fenywod Cymru, a derbyniodd wobr Cyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru yn 2016 a Gwobr Cyflawniad Oes John Hefin yn 2018. Daeth Beti George yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol 1986.

Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Beti George: “Mae'n anrhydedd enfawr i gael cydnabyddiaeth gan Brifysgol Abertawe. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn enwedig i Vanessa Burholt, Athro Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe, am ymgymryd â gwaith ymchwil penodol sydd â'r nod o'i gwneud hi'n haws gofalu am anwylyd sy'n dioddef o ddementia yn ei gartref ei hun.

“Pan oeddwn i'n gofalu am fy mhartner, David (Parry-Jones), a oedd yn dioddef o glefyd Alzheimer, nid oeddwn i'n ystyried bod hynny'n faich arna i. Ar ôl iddo farw yn 2017, penderfynais i gysylltu â CADR i weld a fyddai diddordeb gan rywun mewn ymchwilio i anymataliaeth a dementia ymhlith pobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Roedd yr Athro Vanessa Burholt yn awyddus i ymgymryd â'r her, gan nad oedd bron dim ymchwil wedi cael ei gwneud i'r mater. Gwaith tîm oedd ef, a bydda i'n ddiolchgar am byth iddyn nhw i gyd.

“Gyda llaw, mae fy ymgyrch i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gofal dementia yn parhau!”