y Gwir Anrhydeddus y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i farnwr proffil uchel o Gymru, y Gwir Anrhydeddus y Foneddiges Ustus Nicola Davies DBE.

Cyflwynwyd y radd er anrhydedd i’r Fonesig Nicola Davies heddiw (27 Gorffennaf) yn ystod y seremoni raddio ar gyfer Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. 

Ganwyd y Fonesig Nicola Davies yn Llanelli a chafodd ei magu yn Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr.  Mynychodd Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr i Ferched a hi oedd y gyntaf o'i theulu i fynd i'r brifysgol.

Bu'n gweithio yn y Ddinas fel dadansoddwr buddsoddi cyn cael ei galw i'r Bar ym 1976. Arbenigodd yn y gyfraith feddygol, gan gynnwys esgeulustod clinigol, troseddau, gwaith rheoleiddio ac ymchwiliadau, gan weithredu mewn nifer o achosion nodedig gan gynnwys Sidway v Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Bethlem, Ymchwiliad i Gam-drin Plant Cleveland ac Ymchwiliad Llawfeddygon y Galon Bryste yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Cynrychiolodd Dr Harold Shipman hefyd yn ei achos llys troseddol  a'r Athro Roy Meadow yn ei achos disgyblaethu proffesiynol. 

Penodwyd y Foneddiges Ustus Nicola Davies i Gyngor y Frenhines ym 1992, fel dirprwy farnwr yr Uchel Lys yn 2003 a Barnwr yr Uchel Lys (Cangen Mainc y Frenhines) yn 2010.  Rhwng 2014 a 2017, bu'n Farnwr Gweinyddol Cylchdaith Cymru. 

Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i fod yn ddeiliad yr holl swyddi hyn, a'r fenyw gyntaf o Gymru i'w phenodi'n Foneddiges Ustus Apeliadau. 

Wrth dderbyn ei gwobr, meddai'r Gwir  Anrhydeddus y Foneddiges Ustus Nicola Davies: “Wedi cael fy ngeni yn Llanelli, mae'n fraint arbennig imi gael fy nghydnabod gan Brifysgol Abertawe yn y ffordd hon.  Rwyf wrth fy modd bod y radd er anrhydedd hon yn cael ei rhoi gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, a arweinir gan yr Athro Elwen Evans CB mawr ei pharch."