Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Amanda Mellor, a fu gynt yn fyfyrwraig astudiaethau busnes ym Mhrifysgol Abertawe.  

Cyflwynwyd y dyfarniad er anrhydedd i Amanda Mellor heddiw (19 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. 

Graddiodd Amanda Mellor o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Astudiaethau Busnes Ewropeaidd gyda Ffrangeg, a dechreuodd ei gyrfa ym myd busnes drwy weithio ym meysydd rheoli cyllid a bancio buddsoddiadau ar gyfer James Capel a Robert Fleming.

Ar ôl gweithio yn Llundain a Pharis, rhoddodd Amanda y gorau i fancio i ddilyn gyrfa ym myd diwydiant ym maes cysylltiadau â buddsoddwyr a materion corfforaethol, gan weithio gyda chwmnïau yn y DU a'r Unol Daleithiau cyn ymuno â Marks and Spencer fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau â Buddsoddwyr.

Yn ystod ei chyfnod yn M&S, cafodd ei dyrchafu i swydd Ysgrifennydd y Grŵp a bu'n aelod gweithredol o Bwyllgor Gweithredu'r Grŵp.

O M&S, ymunodd â Standard Chartered Bank, sef grŵp bancio a gwasanaethau ariannol rhyngwladol blaenllaw yn Asia, Affrica a'r Dwyrain Canol, fel Ysgrifennydd y Grŵp, gan arwain tîm byd-eang mewn diwydiant cymhleth sy'n llawn rheoliadau.

Yn gynharach eleni, ymunodd Amanda â GSK a hi yw Ysgrifennydd Cwmni Grŵp cyntaf Haleon PLC, un o geffylau blaen newydd y byd ym maes gofal iechyd defnyddwyr. Gwahanodd Haleon oddi wrth GSK a chofrestru fel cwmni cyhoeddus ym mis Gorffennaf eleni. Dyma un o'r achosion mwyaf o rannu cwmni a chofrestru o'r newydd yn hanes y DU.

Yn ogystal â'i swydd amser llawn, mae Amanda wedi sefydlu ei hun fel Cyfarwyddwr Anweithredol profiadol. Hi yw Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol Volution Group a chynrychiolydd materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu’r bwrdd. Mae wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau Cydnabyddiaeth Kier Group. Bu'n aelod o Gyngor a Phwyllgor Taliadau Cydnabyddiaeth Prifysgol Leeds, lle bu hefyd yn athro gwadd mewn moeseg busnes gymhwysol.

Penodwyd Amanda yn Gymrawd yr Institute of Chartered Secretaries, gan gydnabod ei chyfraniad at hyrwyddo arferion gorau ac adrodd ym maes llywodraethu corfforaethol yn y DU, yn ogystal â rôl ysgrifennydd y cwmni.

Mae gan Amanda gysylltiad gydol oes ag ardal Abertawe, yn enwedig Gŵyr, lle mae ei theulu'n byw.

Wrth dderbyn ei dyfarniad, meddai Amanda Mellor: “Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfnod pan oeddwn i'n astudio yn Abertawe. Drwy fy ngradd yma dechreuais i ar fy llwybr gyrfa. Mae'r ffaith bod y Brifysgol wedi cyflwyno'r dyfarniad hwn i mi'n destun balchder ac anrhydedd anferth.”