Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i'r digrifwr, yr actor, yr awdur a’r gweithredydd gwleidyddol, Eddie Izzard.

Cyflwynwyd y wobr i Eddie Izzard yn ystod seremoni raddio'r Brifysgol ar gyfer y Coleg Peirianneg.  Meddai'r digrifwr, Max Boyce, a oedd yn cyflwyno'r wobr:  "Fel rhywun sy'n gwbl ymwybodol o natur ansicr comedi a'r gofynion sydd ynghlwm, a fyddai modd imi dalu teyrnged wenieithus i'r athrylith gomedïaidd, Eddie Izzard."

Ganwyd Edward John Izzard ar 7 Chwefror 1962 yn nhreftadaeth Aden. Pan oedd Eddie'n un oed, symudodd y teulu i Ogledd Iwerddon, gan ymgartrefu ym Mangor, County Down a byw yno nes i Eddie droi'n 5 oed.  Yna, symudodd y teulu i Gymru lle buont yn byw yn Sgiwen, Gorllewin Morgannwg.

Mae Eddie Izzard yn enwog am ei digrifwch swrrealaidd. Yn actor medrus hefyd, mae wedi ymddangos mewn ffilmiau megis Ocean's Twelve, Ocean's Thirteen, Valkyrie a Victoria & Abdul. Mae hefyd wedi gweithio fel actor llais mewn ffilmiau, gan gynnwys The Chronicles of Narnia: Prince Caspian, Cars 2 a The Lego Batman Movie.

Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Primetime Emmy ar gyfer Perfformiad Unigol mewn Rhaglen Amrywiaethol neu Gerddoriaeth ar gyfer ei chyfres gomedi, Dress to Kill, yn 2000. Enillodd ei gwefan Wobr Dewis y Bobl Yahoo a Gwobr Webby.

Mae wedi ymgyrchu dros achosion niferus.  Yn 2009, rhedodd 43 o farathonau mewn 51 o ddiwrnodau ar gyfer Sport Relief, er nad oedd ganddi brofiad blaenorol o redeg pellteroedd hir.

Mae wedi bod yn weithredydd dros y Blaid Lafur am y rhan fwyaf o'i bywyd. Rhoddodd ddau gynnig ar gael ei ethol i sedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur, a phan ymddiswyddodd Christine Shawcroft ym mis Mawrth 2018, cymerodd ei lle yn awtomatig.

Wrth dderbyn ei wobr, meddai Eddie: “Wrth fynychu ysgol gynradd yn Abertawe yn blentyn (Ysgol Tŷ Oakleigh), mae'n hyfryd derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.  Mae'n bleser dychwelyd i un o ddinasoedd fy mhlentyndod. Diolch o galon.”