Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r gwyddonydd uchel ei fri Dr Rhodri Jones i gydnabod ei gyfraniadau neilltuol at faes ffiseg a'i gyflawniadau anhygoel fel Pennaeth yr Adran Belydr yn CERN, sef y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear.

Ac yntau'n Bennaeth yr Adran Belydr yn CERN, mae Dr Jones yn gyfrifol am weithrediad peiriannau cyflymu CERN, ynghyd â bathu a dylunio cyflymyddion ffiseg gronynnau, systemau rheoli cyflymyddion, a mesureg a roboteg ar gyfer amgylcheddau cyflymyddion yn y dyfodol.

Er i Dr Jones gael ei eni yn Sir Gâr, treuliodd ei blentyndod cynnar yn yr Iseldiroedd, a symudodd i Gaergrawnt ac yntau'n wyth oed. Serch hynny, roedd yn awyddus iawn i fyw yng Nghymru a thrwy fynd i'r brifysgol cafodd gyfle i gyflawni'r awydd hwnnw.

Ym 1992, cwblhaodd Dr Jones ei astudiaethau israddedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Gan adeiladu ar ei gyflawniadau academaidd, parhaodd i astudio yn Abertawe, gan ddilyn PhD mewn Ffiseg Atomau a Laserau. Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth, cychwynnodd bennod newydd ym 1996, gan ymuno â CERN i gyfrannu at ddatblygu systemau diagnostig ar gyfer y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr enwog.

Mae rôl Dr Jones yn CERN wedi bod yn amlweddog, gan gynnwys ymchwilio i dechnegau arloesol ar gyfer nodweddu pelydr gronynnau. Yn ogystal, roedd yn gyfrifol am roi system lleoli'r pelydr ar waith ar gyfer y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr, system mesur gwasgaredig hollbwysig i reoli'r pelydr gronynnau wrth iddynt gyflymu. O 2009 tan 2020, bu'n arwain y Grŵp Offeryniaeth Pelydr yn CERN, gan feithrin cydweithrediad mewn technoleg cyflymyddion ymysg sefydliadau a phrifysgolion Ewropeaidd.

Gwnaeth ei waith gynnwys cyfrannu'n uniongyrchol at raglenni'r Undeb Ewropeaidd. Yn 2021, derbyniodd Dr Jones swydd Pennaeth yr Adran Belydr. At hynny, mae wedi cyfranogi ers amser maith yn Ysgol Cyflymyddion CERN, lle mae'n traddodi darlithoedd yn rheolaidd ac yn hwyluso cyrsiau ymarferol, gan gyfrannu at hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr a pheirianwyr cyflymyddion.

Wrth astudio yn Abertawe, cyfarfu Dr Jones â'i wraig, Sharon, a chyda'i gilydd maent wedi cael pedair merch, gan fagu pob un ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ffrainc.

Wrth dderbyn ei wobr er anrhydedd, meddai Dr Jones: “Mae'n anrhydedd anferth derbyn y radd er anrhydedd hon gan fy alma mater, Prifysgol Abertawe. Fyddwn i ddim wedi cyrraedd fy sefyllfa bresennol heb y sylfaen gadarn a roddwyd i mi gan Brifysgol Abertawe a'i hadran ffiseg yn ystod fy astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig.

“Mae gan y brifysgol hanes hir o gydweithredu â'r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) wrth i lawer o gyn-fyfyrwyr gynnal ymchwil neu dderbyn swyddi yno. Mae hyn yn parhau hyd heddiw gyda phresenoldeb cryf o Abertawe ar arbrofion gwrthfater CERN ac fel rhan o dîm rheoli CERN.

“Ar ôl cael y pleser o groesawu'r Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, wrth iddo ymweld â CERN yn ddiweddar, rwy'n edrych ymlaen at ymdrech gryfach byth i gynnal y cysylltiadau cryf rhwng Prifysgol Abertawe a'r labordy ffiseg mwyaf yn y byd, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i elwa o'i graddedigion ardderchog. I'r perwyl hwn, rydyn ni'n gweithio ar hyn o bryd ar fanylion digwyddiad rhwng CERN ac Abertawe i arddangos ein hymchwil benodol a nodi meysydd cydweithredu newydd.”