Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r arloeswr ymchwil a datblygu blaengar Dr Sharon James.

Cyflwynwyd y dyfarniad er anrhydedd i Dr James heddiw (26 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Yn wreiddiol o ardal Aberteifi, mae Sharon James yn aelod o fwrdd cwmnïau gofal iechyd a biotechnoleg yn Sweden (Molnlycke), Denmarc (Novozymes) a Chanada (Algae-C), lle mae'n ymdrechu'n ddiwyd i arloesi a gwella ansawdd bywyd defnyddwyr a chleifion. Mae hefyd yn credu'n gryf fod gennym ddyletswydd ddiamod i ofalu am yr amgylchedd ac mae bellach yn cael dylanwad mawr ar agendâu cynaliadwyedd byrddau ei chwmnïau ac yn eu hyrwyddo.

Mae wedi cael blynyddoedd lawer o brofiad rhyngwladol ar lefel Prif Swyddog Technoleg mewn cwmnïau byd-eang o'r radd flaenaf (Bayer, Reckitts, PepsiCo) lle mae wedi arwain a thrawsnewid timau ymchwil a datblygu byd-eang mawr yn y sectorau nwyddau cartref a gofal iechyd. Mae ei chenhadaeth bersonol bob amser wedi bod i rymuso defnyddwyr a chleifion i wneud dewisiadau sy'n cefnogi eu hiechyd personol, gan gredu'n gryf fod y gallu i reoli eich iechyd a'ch lles eich hun yn hawl ddynol sylfaenol i bawb. I'r perwyl hwnnw, mae wedi darparu mentrau iechyd arloesol a thrawsnewidiol sydd wedi bod wrth fodd defnyddwyr yn rhyngwladol.

Mae'n dadlau'n gryf ac yn llafar dros fenywod ym maes gwyddoniaeth ac yn mentora llawer o weithwyr proffesiynol ifanc benywaidd. Mae'n ymrwymedig i agor y drysau i addysg wyddoniaeth i ferched ifanc drwy raglenni STEM a chychwynnodd y mudiad ‘Making Sense of Science’ ar ran Bayer yn yr Unol Daleithiau er mwyn annog plant i astudio a chroesawu gwyddoniaeth.

Mae Sharon James yn siarad Cymraeg. Mae ei theulu'n dal i fyw yng ngorllewin Cymru ac mae'n ymweld yn aml i ymarfer ei Chymraeg.

Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Dr James: “Mae gwyddoniaeth a thechnoleg bob amser wedi rhoi mynediad at gyfleoedd i mi ac rwy'n teimlo'n falch ac yn ddiolchgar fy mod i'n derbyn y dyfarniad hwn gan brifysgol mor arloesol a phwrpasol.”