Cwestiynau Cyffredin
Archebu eich Lle
Pryd y gallaf archebu fy lle yn y cynulliad?
Byddem yn anfon e-bost atoch pan fydd y system archebu ar-lein yn agor, fel arfer oddeutu 3 mis cyn y cynulliadau.
Anfonir e-byst at eich cyfrif e-bost Prifysgol ac unrhyw e-bost personol sydd genym ar eich cyfrif mewnrwyd.
Dydw i ddim yn dod â gwesteion i'r cynulliad; a oes angen i mi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd?
Oes, mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau'r broses gwneud cais i wneud yn siwr bod eich sedd wedi'i chadw ar eich cyfer.
Ni fyddaf yn mynychu'r cynulliad - a oes angen i mi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd?
Oes, mae angen i chi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd, gan fod angen i ni wybod faint o fyfyrwyr a fydd yn mynychu.
Rydw i'n dal i aros am fy nghanlyniadau. A ddylwn aros hyd nes eu bod wedi'u cyhoeddi cyn cwblhau'r broses gwneud cais?
Na, dylech gwblhau'r broses gwneud cais cyn gynted â phosib, i wneud yn siwr bod tocynnau'n cael eu dyrannu i chi.
Ni fedrwn warantu y bydd tocynnau ar gael o hyd os ydych yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau ar gyfer archebu.
Os nad ydych yn pasio eich asesiadau terfynol, caiff eich gwahoddiad i'r cynulliadau ei dynnu yn ôl yn awtomatig a byddwch yn derbyn e-bost i cadarnhau nad ydych yn gymwys i mynychu y cynulliadau.
Ydy hi’n bosib newid diwrnod/amser fy nghynulliad?
Na, bydd cynulliad yn cael ei drefnu i bob myfyriwr yn seiliedig ar eu hadran gartref. Bydd yr egwyddor hon yn weithredol ar draws pob Ysgol.
Os nad ydych yn siŵr pa adran yw eich adran gartref cysylltwch â’ch Ysgol yn y lle cyntaf.
Tocynnau
Sut y gallaf archebu tocynnau i westeion?
Byddwch yn derbyn ein gwahoddiad ar e-bost ar gyfer y system cadw lle ar-lein, a byddwch yn cael 2 docyn i westeion am ddim ac yn awtomatig.
Nid oes angen tocyn ar fyfyrwyr sy'n graddio i ddod i'w cynulliad.
Byddwch yn casglu'ch tocynnau o Arena Abertawe ar ddiwrnod eich cynulliad.
A fydd unrhyw docynnau ychwanegol ar gael?
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn hoffi dod â theulu a ffrindiau i'w cynulliadau graddio. Ni allwn warantu mwy na DAU DOCYN AM DDIM I WESTEION fesul myfyriwr pan fydd y myfyrwyr yn cofrestru eu presenoldeb.
Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael, rhoddir gwybod i'r holl fyfyrwyr drwy e-bost cyn y seremonïau.
Pris tocynnau ychwanegol yw £15.00 a chânt eu gwerthu ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd gwybodaeth am docynnau ychwanegol yn cael ei hanfon atoch yn dilyn Byrddau Arholi mis Mehefin.
Gallwch brynu tocynnau ar-lein yn unig ac ni chaniateir eu trosglwyddo ac nid ydynt yn ad-daladwy.
NI FYDD tocynnau'n cael eu postio atoch; byddant yn cael eu hanfon i'ch cyfrif e-bost myfyriwr a byddant yn cynnwys côd QR unigryw a fydd yn cael ei sganio wrth gyrraedd Arena Abertawe ar y diwrnod.
Ni chaiff gwesteion heb docyn ddod i mewn i Arena Abertawe a'r seremoni.
Anfonir mwy o wybodaeth am eich e-docynnau atoch yn agosach at yr amser.
Caiff seremonïau graddio eu darlledu yn ystod graddio drwy’r wefan ganlynol: Graddio - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
A allaf ddod â phlant i'r cynulliad?
Rydym yn cydnabod bod seremonïau graddio'n achlysuron i'r teulu ac mae croeso i blant ddod. Serch hynny, rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Mae'r cynulliadau'n para tuag awr a phymtheng munud felly efallai nad ydynt yn addas i blant ifanc iawn. I barchu gwesteion eraill, rydym yn gofyn i chi fynd â phlant allan os ydynt yn cynhyrfu yn ystod y cynulliad fel nad ydynt yn tarfu ar y seremoni a gwesteion eraill. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i blant (neu oedolion) adael yr awditoriwm yn ystod y seremoni os ydynt yn gwneud sŵn diangen neu'n tarfu ar y seremoni neu westeion eraill.
Dylai plant dan 2 oed eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt.
Rhaid i blant 2 oed ac yn hŷn gael tocyn pris llawn i gael mynediad i'r cynulliad.
Nid oes cyfleusterau gofal plant ar gael.
A oes unrhyw le ar gael ar gyfer cadeiriau olwyn?
Oes, ond sylwer mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael i gadeiriau olwyn ac mae'n rhaid archebu llefydd o flaen llaw.
Os oes unrhyw ofynion arbennig gyda chi neu'ch gwesteion, nodwch hyn pan ofynnir i chi yn ystod y broses gwneud cais ar-lein neu, os ydych wedi archebu lle yn barod, cysylltwch â'r Swyddfa Raddio yn uniongyrchol.
Sut y byddaf yn derbyn fy nhocynnau?
Caiff tocynnau gwesteion eu hanfon yn electronig.
Cewch wybod drwy e-bost beth yw cyfanswm eich tocynnau cyn y cynulliadau.
Nid oes angen tocyn ar fyfyrwyr sy'n graddio i fynychu eu cynulliad ond bydd angen i nhw cofrestru ar y dydd.
Gwisg
A oes cod gwisg?
Rhaid i'r holl fyfyrwyr sy'n graddio wisgo gwisg academaidd.
Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.
Rydym hefyd yn argymell bod darpar raddedigion yn gwisgo crys neu flows, i alluogi cwfl y gwn i gael ei atodi i un o’r botymau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n adran Gwisg Academaidd.
Does dim cod wisg ffurfiol i westeion. Serch hynny, gan fod y cynulliad yn ddigwyddiad ffurfiol, rydym yn argymell bod gwesteion yn gwisgo dillad smart.
Ble ydw i'n archebu fy ngwisg graddio? Faint y bydd yn ei gostio?
Chi sy'n gyfrifol am archebu eich gwisg eich hun.
Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.
Mae'r gost o logi gwn academaidd drwy Ede and Ravenscroft yn dibynnu ar lefel eich dyfarniad, ond ar gyfartaledd bydd yn costio rhwng £40 a £60, Gwelwch Prysiau:
Prysiau pan rydych yn archebu drwy y wefan:
Dyfarniad | Pris Llogi |
---|---|
Baglor / Gradd cyntaf | £45 |
Tystysgrifau a Diplomau | £32 |
Graddau Sylfaen | £45 |
Tystysgrif i Raddedigion | £45 |
Diploma i Raddedigion | £45 |
Tystysgrif Ôl-raddedig | £51 |
Diploma Ôl-raddedig | £51 |
Meistr a Addysgir | £51 |
Meistr Ymchwil | £51 |
Doethur Ymchwil / Professiynol | £58 |
Doethur Uwch | £58 |
Ede and Ravenscroft yw'r ffotograffwyr swyddogol ar gyfer y cynulliadau a byddant yn bresennol ym mhob cynulliad.
Gallwch gael eich llun wedi'i dynnu ar y diwrnod a gallwch naill ai brynu'r printiau ar-lein o flaen llaw neu yn y cynulliad.
Mae cost y printiau'n amrywio yn dibynnu ar y pecyn yr ydych am ei brynu.
Ewch i Ede and Ravenscroft am ragor o fanylion.
Ar y Dydd
Faint o'r gloch bydd y cynulliadau'n dechrau ac yn gorffen?
Bydd yr holl gynulliadau yn dechrau am 10.00am, 1.30pm neu 4.30pm. Ewch i Amserlen am gwybodaeth penodol.
Bydd angen i chi gyrraedd tuag awr a hanner cyn i'ch cynulliad ddechrau i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o amser i gasglu eich tocynnau a'ch gŵn a chael tynnu eich lluniau swyddogol.
Sylwer bod y stiwdios ffotograffiaeth ar agor cyn neu ar ôl eich cynulliad ac maen nhw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Bydd pob cynulliad yn para oddeutu 1 awr 15 munud.
Ble mae'r lleoliad a sut ydw i'n cyrraedd yno?
Bydd Graddio yn cael eu cynnal ar Arena Abertawe, Oystermouth Road, Bae Copr Bay, Abertawe, SA1 3BX.
Ni fydd parcio ar gael ar Campws y Bae. Bydd y Brifysgol yn gweithredu cyfleuster Parcio a Theithio; mae trefniadau parcio a theithio i'w cadarnhau.
Beth sydd angen i mi wneud ar y dydd?
Ar ddiwrnod eich Cynulliad bydd angen i chi fynd i'r Arena i gofrestru, cael rhif eich sedd, a chasglu'ch tocynnau ac eich tystysgrif. (Os dyfernir eich gradd neu ddyfarniad wyth wythnos neu fwy cyn y Cynulliadau, caiff eich tystysgrif ei anfon drwy'r post i'ch cyfeiriad cartref.) Bydd angen i chi gasglu eich gynau ac efallai dewis cael lluniau swyddogol wedi'u tynnu.
Sylwer y gallai fod ciw, felly cynghorir eich bod yn cyrraedd o leiaf awr a hanner cyn amser dechrau eich Cynulliad.
Gellir tynnu eich lluniau swyddogol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cyn neu ar ôl y cynulliad.
Sylwer bod rhaid i chi a'ch gwesteion gymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn dechrau'r cynulliad. Gall gyrraedd yn hwyr effeithio ar allu eich gwesteion i gymryd eich seddi a'ch gallu i gymryd rhan yn y cynulliad. Mae'r hawl gennym i wrthod mynediad i'r cynulliad i unrhyw westeion sy'n cyrraedd yn hwyr, hyd yn oed os oes tocyn gyda nhw.
Bydd y drysau i'r neuadd yn agor 30 munud cyn dechrau'r cynulliad.
Ble y byddaf yn eistedd yn y cynulliad? A fyddaf yn eistedd gyda fy ngwesteion?
Byddwch yn eistedd gyda darpar raddedigion eraill ym mlaen yr awditoriwm, yn nhrefn y wyddor ac yn ôl trefn y dyfarniad a'r cwrs.
Cyhoeddir pob dyfarniad, wedi'i ddilyn gan enwau'r holl ddarpar raddedigion sy'n mynychu.
Wrth i'ch enw gael ei gyhoeddi, byddwch yn cerdded ar draws y llwyfan i godi eich cap i’r Canghellor neu'r Is-Ganghellor.
Bydd y Marsialiaid ar gael i'ch cynorthwyo ar y dydd, i wneud yn siwr eich bod yn cael eich cyflwyno'n gywir ar gyfer eich gradd neu ddyfarniad.
Bydd gwesteion yn eistedd mewn man ar wahân y tu ôl i'r darpar raddedigion.
A fedraf ddod â chamera a chamera fideo i'r cynulliad?
Cewch, ond byddwch yn ystyriol o'r rhai hynny sy'n eistedd o'ch cwmpas os ydych yn tynnu lluniau neu'n ffilmio yn ystod y digwyddiad.
Bydd ffotograffau proffesiynol a USB o'r cynulliad ar gael i'w prynu ar ôl y cynulliad - am ragor o fanylion, ewch i'n adran Lluniau
Amrywiol
Pryd y byddaf yn derbyn fy nhystysgrif?
Bydd eich tystysgrif yn barod i'w gasglu unwaith i chi gofrestru ar ddiwwrnod eich seremoni. Yn achos myfyriwr nad yw'n dod i'r seremoni, y polisi yw postio'r dystysgrif i'w gyfeiriad cartref fel y'i nodir ar y Proffil Myfyriwr o fewn 8 wythnos ar ôl ei dyfarnu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod y manylion cyswllt cywir ar y fewnrwyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich tystysgrif, neu os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrif o fewn tri mis i gadarnhau'r dyfarniad, e-bostiwch degreecertificates@swansea.ac.uk
Mae angen llythyr cefnogi fisa arnaf i fi /fy nheulu fynychu'r cynulliad - beth y dylwn ei wneud?
Ewch i'n adran Llythyron cefnogi Fisâu Rhyngwladol am ragor o fanylion.
Sut y gallaf gysylltu â'r Swyddfa Raddio?
Gweler ein tudalen Cysylltwch â Ni.
Force Majeure
Os bydd angen i Brifysgol Abertawe ganslo, newid neu aildrefnu seremonïau graddio, bydd y Brifysgol yn ymdrechu i hysbysu myfyrwyr am hyn gan roi'r rhybudd mwyaf posib. Os caiff y seremoni raddio ei chanslo, ei gohirio neu ei haildrefnu (gan gynnwys newid y dyddiad, yr amser a/neu'r lleoliad) o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, gan gynnwys (er nad yw hon yn rhestr gyflawn) tân, ffrwydrad, gweithred derfysgaidd (neu fygythiad o weithred derfysgaidd), gweithred gan Dduw, pandemig, profedigaeth genedlaethol (sef unrhyw aelod o'r teulu brenhinol), cofrestriadau myfyrwyr yn mynd y tu hwnt i'n darpariaeth neu o ganlyniad i unrhyw weithredu diwydiannol, anghydfod sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe, neu unrhyw ddigwyddiad neu weithred arall y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu a geir fel arall ymhlith darpar-raddedigion neu eu gwesteion.