Antur newydd eich Dyfodol: Croeso i Deulu Cyn-fyfyrwyr Abertawe!
Nid hwyl fawr oedd eich seremoni raddio, ond dechreuad eich antur nesaf!
Fel myfyriwr graddedig o Abertawe byddwch yn dod yn aelod awtomatig o'n cymuned gref o 250,000 o gyn-fyfyrwyr.
Dyma pam y byddwch am barhau i gysylltu:
- Rhwydwaith Gydol Oes: Gallwch feithrin cyfeillgarwch gydol oes gyda chyn-fyfyrwyr eraill, dod o hyd i fentoriaid a chael cyfleoedd di-ri.
- Rhoi hwb i'ch Gyrfa: Gallwch gael awgrymiadau, hysbysebion am swyddi unigryw a chael cyngor ar yrfaoedd gan rwydwaith o gyn-fyfyrwyr Abertawe.
- Cael yr wybodaeth ddiweddaraf: Cewch wahoddiadau unigryw i ddigwyddiadau, aduniadau a newyddion sy'n eich cadw mewn cysylltiad â chymuned fywiog Abertawe.
Peidiwch â cholli cyfle: Diweddarwch eich manylion cyswllt (ni fydd eich e-bost yn Abertawe'n gweithio ar ôl graddio) a gallwch bori yn yr adnoddau anhygoel sy'n aros i chi yn swansea.ac.uk/alumni/new-graduates/.
Rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn rydych wedi'i gyflawni!
N.B. Unrhyw Gwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! E-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk.