Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi wybod
I wneud yn siŵr eich bod yn cael y maint het cywir, mesurwch gylched eich pen un fodfedd uwchben eich ael, mesurwch o gwmpas eich pen ar y lefel honno a nodwch y mesuriad naill ai mewn modfeddi neu gentimetrau.
- mesuriadau eich brest
- eich mesuriad uchder
a gwneud yn siŵr bod manylion eich cerdyn credyd/debyd gennych wrth law.
I wybod pa gŵn i archebu defnyddiwch ein Canllaw i ddewis eich Gwisg Graddio .
Byddant yn cydnabod eu bod wedi derbyn eich archeb wrth ei phrosesu ond mae'n bosib na fyddwch yn ei derbyn tan 10 diwrnod cyn eich cynulliad.
Os oes unrhyw ofynion arbennig gennych ynglŷn â'ch gŵn, h.y. mawr iawn, neu fach iawn, neu gŵn sy'n addas i'w wisgo gyda chadair olwyn, rhowch wybod i Ede and Ravenscroft Ltd wrth archebu.
Prysiau pan rydych yn archebu drwy y wefan:
Dyfarniad | Pris Llogi |
Baglor / Gradd cyntaf |
£45 |
Tystysgrifau a Diplomau |
£32 |
Graddau Sylfaen |
£45 |
Tystysgrif i Raddedigion |
£45 |
Diploma i Raddedigion |
£45 |
Tystysgrif Ôl-raddedig |
£51 |
Diploma Ôl-raddedig |
£51 |
Meistr a Addysgir |
£51 |
Meistr Ymchwil |
£51 |
Doethur Ymchwil / Professiynol |
£58 |
Doethur Uwch |
£58 |
Am gost ychwanegol, mae'n bosib llogi eich gŵn am amser ychwanegol. Mae hyn yn caniatáu i chi fynd â'ch gŵn adref i gael mwy o luniau wedi'u tynnu.
Rhaid dychwelyd y gynau i Ede and Ravenscroft o fewn 7 diwrnod, gyda'r unigolyn sy'n llogi yn talu'r gost. Caiff bag dychwelyd ei amgáu gyda'ch gŵn wrth i chi ei gasglu.
Mae ad-daliadau ar gael os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad am ryw reswm.
Yn yr achos hwn, rhaid i chi ysgrifennu at Ede and Ravenscroft ar y cyfeiriad isod i roi gwybod iddynt eich bod am ganslo ar y cyfle cynharaf posib.
Ede and Ravenscroft Ltd.
Unit A, Denny Industrial Centre
Waterbeach
Caergrawnt
CB5 9QD