Amserlen Cynulliadau Graddio Gaeaf 2026
Sylwer: Gall amserlen Graddio'r Gaeaf newid.
Er nad ydym yn rhagweld y bydd newidiadau i ran fwyaf y seremonïau, efallai y bydd angen gwneud addasiadau i amserau seremonïau, gan gynnwys uno seremonïau os oes angen. Lle bynnag y bo'n bosibl, gwneir newidiadau i amser seremonïau ar y diwrnod graddio sydd wedi'i gyhoeddi; ni fydd diwrnod eich seremoni raddio yn newid.
Cysylltir yn uniongyrchol â myfyrwyr y bydd newid i'w seremoni yn effeithio arnynt.
Archebu Graddio
Cewch gofrestru ar gyfer Graddio o 5 Hydref 2026. Gall myfyrwyr weld eu cofrestriad drwy eu cyfrif mewnrwyd, ac anfonir e-bost pan fydd y cyfnod cofrestru yn dechrau. I gael rhagor o wybodaeth am y cynulleidfaoedd graddio, ewch i https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/graddio/
Cynhelir pob Cynulliad yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Crymlyn Burrows, Abertawe, SA1 8EN. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Swyddfa Graddio, Gwasanaethau Addysg, drwy ffonio 01792 604844 neu e-bostio graduation@abertawe.ac.uk