Amserau ar y Dydd
Amserau Graddio |
9.30am |
11.30am |
2.15pm |
4.15pm |
Cofrestru |
8.00 - 9.15 |
9.30 - 11.15 |
11.30 - 14.00 |
14.15 - 16.00 |
Drysau yn Agor |
9.00 |
11.00 |
13.45 |
15.45 |
Ddarpar - raddedigion a Gwesteion i eistedd erbyn |
9.15 |
11.15 |
14.00 |
16.00 |
Cynulliad (diwedd o gwmpas) |
11.00 |
13.00 |
15.45 |
17.45 |
Dychwelyd Gŵn yn cau |
20.00
|
20.00
|
20.00
|
20.00
|
Cynhelir Derbyniadau Coleg ar ôl pob Cynulliad, dilynwch y dolenni ar gyfer yr amserlen.
Pryd i chi'n cyrraedd
Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1½ awr cyn eich cynulliad.
Edrychwch ar yr Campws y Bae - Map Graddio Map Parth
Fel myfyriwr sy'n graddio, pan fyddwch yn cyrraedd bydd angen i chi fynd yr Ysgol Reolaeth gyntaf, lle byddwch yn cofrestru (cadarnhau eich bod wedi cyrraedd), yn derbyn cerdyn cofrestru, yn casglu tocynnau eich gwesteion ac yn derbyn eich tystysgrif (os nad ydych eisoes wedi'i derbyn). Mae’n rhaid i chi gofrestru o leiaf 45 munud cyn eich cynulliad.
Yna byddwch yn casglu'ch gŵn.
Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn oll gallwch cael ffotograff ohonoch (gellir cymryd llun cyn neu ar ôl y Cynulliad). Mae'r Stiwdio Ffotograffiaeth yn yr Adeilad Canolog Peirianneg, ystafell B001.
Gallwch wedyn mynd i eisteddle y Neuadd Fawr i cymryd eich lle i'r cynulliad. Mae'n rhaid i chi fod yn eistedd 15 munud cyn eich cynulliad i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y cynulliad. Bydd y drysau i Awditoriwm y Neuadd Fawr yn agor tua 30 munud cyn y cynulliad.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Mae’n rhaid i’r darpar-raddedigion eistedd yn y sedd sydd wedi’i neilltuo iddynt; bydd rhif eich sedd wedi’i nodi’n glir ar eich cerdyn cofrestru.
Bydd Gwesteion yn cael mynediad i’r Neuadd Fawr 30 munud cyn i’r cynulliad ddechrau. Bydd sedd yn cael ei neilltuo i’r holl westeion. Ni chaniateir mynediad i’r neuadd cyn yr amser hwn ond bydd yr allfeydd arlwyo ar agor ac ar gael.
Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir yn ystod yr holl ddigwyddiad a bydd tywyswyr wrth law i'ch cynorthwyo.
Mae gennym leoliadau arlwyo ar gael ar Gampws y Bae i raddedigion a gwesteion:
Coffeeopolis
Bydd ffans Starbucks™ yn dwlu ar Coffeopolis. Mae wedi’i leoli yn libart Adeilad Canolog Peirianneg, tuag ymyl dwyreiniol y campws ac mae Coffeopolis yn lle gwych i eistedd a mwynhau’r awyrgylch wrth yfed latte Starbucks neu wrth fwynhau panini a baratowyd yn ffres.
COSTA™ yn y Coleg
Dyma ein man arlwyo diweddaraf sydd wedi’i leoli yng nghefn y Coleg. Mae digonedd o seddi i fwynhau COSTA™ gyda ffrindiau neu wrth astudio. Mae danteithion a brechdanau hefyd ar gael.
Tafarn Tawe
Tafarn Undeb y Myfyrwyr ar Gampws y Bae sy’n gweini bwyd ffres drwy’r dydd, o frechdanau brecwast i fyrgyrs a salad!
Tesco Express
Mae gan Gampws y Bae ei siop Tesco Express ei hun. Prynwch eich hoff fwydydd gan y brand mawr y gallwch chi ymddiried ynddo!
Yn y Cynulliad
Bydd darpar-raddedigion yn eistedd yn y sedd gyda'r un rhif sydd ar ei cerdyn cofrestru. Byddwch yn derbyn eich cerdyn cofrestru ar y dydd pan rydych yn cyrraedd a cofrestru.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion.
Bydd marsial yn dweud wrthych pryd i godi. Unwaith i chi godi byddwch yn cael eich ddangos ble i fynd i gyrraedd drws y llwyfan.
Pan mae'ch enw yn cael ei argyhoeddu byddwch yn croesu'r llwyfan, yn ysgwyd llaw gyda'r Canghellor neu Is-Ganghellor ac wedyn yn parhau i ochr arall y llwyfan, i lawr y grisiau yna ac nôl i'ch sedd.
Llif Myfyrwyr
Ar ôl y Cynulliad
Gallwch wisgo eich gwisgoedd academaidd drwy gydol y dydd ond rhaid eu dychwelyd erbyn yr amseroedd ichod.
Yn dilyn pop cynulliad bydd lluniau cynulliad yn cael ei gymryd, defnyddiwch y ddolen am amseroedd. Gallwch parhau eich dathliadau gyda dathliadau y Coleg.
Gallwch archebu a derbyn (saib o tua 15 muned) DVD o'ch cynulliad o llyfrgell y Bae.
Os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib.
Bydd myfyrwyr israddedig y mae eu henwau'n ymddangos yn llyfryn y cynulliad ac nid ydynt yn mynychu yn graddio yn eu habsenoldeb. Sylwer na chaiff gohiriadau eu caniatáu fel arfer, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Gwesteion
Bydd modd i chi gael mynediad i'r neuadd tua 30 munud cyn y cynulliad a RHAID eich bod yn eich seddi heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn y cynulliad.
Mae'r cynulliad yn debygol o bara oddeutu 1½ awr ac mae'n bosib felly na fyddai'n addas i blant ifanc na babanod.
Mae’r seddau yn y Neuadd Fawr wedi eu gosod mewn rhengoedd. Bydd rhywun wrth law i’ch tywys.
Os oes unrhyw broblemau symud neu anableddau gan eich gwesteion a wnewch chi roi gwybod i ni cyn diwrnod eich Cynulliad fel bod modd i ni gadw’r seddau priodol, Cysylltu â ni.
Gall unrhyw westeion heb docyn gwylio'r cynulliad, yn fyw, mewn theatr darlithio ar llawr waelod y Neuadd Fawr.
Yn dilyn y cynulliad, gofynnir i chi adael y neuadd er mwyn i’r staff fedru paratoi ar gyfer y gynulliad nesaf. Bydd croeso i chi ddefnyddio’r allfeydd arlwyo fydd ar gael, cael eich llun wedi tynnu, neu gwneud eich ffordd i ddathliadau y Coleg.